ÃÛÑ¿´«Ã½

Use ÃÛÑ¿´«Ã½.com or the new ÃÛÑ¿´«Ã½ App to listen to ÃÛÑ¿´«Ã½ podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Episode details

Radio Cymru,1 min

Emyr Davies - Bardd y Mis

Geraint Lloyd

Available for over a year

Does dim drwg nad yw’n dda i rywun Mae’r byd yn llawn gofidie Ond wir, yn oes y pla Mae’n rhaid i fi gyfadde Y daeth ’na bethau da. Mae’r ardd yn cael ei thrimo A’r lawnt yw’r orau’n bod, A’r gath yn derbyn maldod Na cha’th y gath erio’d. Rwy’n hala llai ar betrol A llai ar fwyd i’r tŷ; Mae wedyn mwy i’w hala Ar gwrw bach… neu dri. Mae’n dawel heb ymwelwyr Yng Nghymru ar eu taith, A’i golygfeydd godidog (Na cha’i mo’u gweld nhw ’chwaith). I gynnal sgwrs â’r teulu Mae’n dda fod Zoom i’w gael; Ca’i ddweud, ar ôl cael digon, ‘Mae’r lein yn bzzt yn wael…’ Rwy’n trio’r holl rysetiau Y bydda i’u hangen byth, A gwell na Mary Berry Yw pwdin Delia Smith. Mae cyfle cadw’n heini Drwy’r we y maen nhw’n dweud; Un peth yw cael y cyfle, Peth arall ydyw gwneud. Os byth y bydda i’n unig A’r ysbryd yn y ffos, Ca’i gwmni Radio Cymru O fore gwyn tan nos. Emyr Davies

Programme Website
More episodes