ÃÛÑ¿´«Ã½

Use ÃÛÑ¿´«Ã½.com or the new ÃÛÑ¿´«Ã½ App to listen to ÃÛÑ¿´«Ã½ podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Episode details

Radio Cymru,4 mins

Casia Wiliam - Bardd y Mis - Symud tÅ·

Geraint Lloyd

Available for over a year

Symud tŷ Am y canfed tro. Hel, codi, lapio, stwffio, plygu corneli ein bywyd eto nes bod y cwbl yn ffitio mewn bocs. Dal i fynd nes bod llond tŷ yn ddim ond llond fan. Holl swmp ein dyddiau prysur yn swatio’n dawel a ninnau fel crancod yn diosg ein cregyn. Awn yn nes at y môr y tro hwn. Teimlwn heli’r gwynt yn goglais ein cefnau noeth a chyn mentro wysg ein hochra i adra newydd, awn am eis crîm. Yna, syllwn ar y bocsys, heb syniad beth sydd ynddynt a gweld ein hunain yn hurt. Ai ni bia popeth? Ein bywydau ni yw’r rhain, go iawn? Ond mae’n fater o raid, felly dyma gychwyn clirio a threfnu a chadw a gosod a thwtio ein bywyd eto nes bod y cwbl yn chwyddo i ffitio’r gragen hon a ninnau’n anghofio cyn pen dim am y bobl oedden ni’r diwrnod hwnnw, y siâp oedd arna ni heb ddim, ond hufen iâ mewn llaw. Casia Wiliam

Programme Website
More episodes