Episode details

Available for over a year
C’mon Cymru (cyn gemau Cynghrair y Cenhedloedd, Medi 2020) Gwyliais fy ngwlad o bell sawl tro cyn hyn: - yn alltud gwaith, mewn pybs anghyfiaith, anghymunedol; neu’n soffa-warchod ‘mhlantos nôl-a-mlaen, a’u synnu gyda ‘ngweiddi ofer ar y sgrîn, a’r rhychu carped ar fy nwy benglin wrth ewyllysio gôl! Tro hwn, ‘run faciwm sy’n ein gwahodd, un ac oll... O bell, clustfeiniwn ar y sgwrs ar gae sy’n tystio fod ein gobaith yn parhau, ac un ar ddeg yn gwadu nad ŷm ni’n rhy fach, rhy dlawd, rhy dwp, i hawlio’n lle. A dygwn hynny nôl o’r stadiwm wag i bob cynefin, cario’r sgwrs ymlaen: cans onid llesol i bob enaid coch cytûn, gael bod yn rhan o Gymru sydd yn fwy na fo ei hun?
Programme Website