Episode details

Available for over a year
Yn ogystal â thrafod y prosiect Bà rd, File, Bardd, cerdd gan Ifor ap Glyn i Geraint Jarman : Engan Dyb (i Geraint Jarman yn 70 oed, 17.8.20) ‘Pan elo gof yn ei efail ni ddichon ei gaethiwo wedi hynny’ A dyma Jarman, wrth yr engan dyb, fel ysbryd, heb forthwyl yn ei law yn cydio ynom â gefel ei gân. Mae’n gweithio dolen rithiol arall mewn cadwyn gydol oes, ac mae chwain y gof yn hedfan o’i alaw o hyd. A dyma fo wrth yr engan dyb, ‘rôl tanwenta yn ein hanes a thwrio drwy gypyrddau’r iaith, mae’n anwylo’r gwerin-eiriau, a’u nerthu o’r newydd yn ei dân cyn deifio ein dychymyg â’i ddelweddau seicadelig; yn troi mwtrin moron yn Bombay mix… Mae’n trawsacennu’r cyfan wrth yr engan dyb, mor gymen ei guriadau â hoelion llyncu pennau. Ac os oes stamp alltud arno, nid yw yn cadw ffin: When you reach limit, you become limit ac mae’n hel syniadau gweddw o bedwar ban, gan drin meddyliau trwm yn ysgafn, nes peri iddynt symud … a ninnau’n dawnsio hefyd. A dyma Jarman wrth yr engan dyb, yn megino to iau’r ddinas, yn cyfreithloni’u bro ac mae pob gig fel efail symudol a’i gwres yn denu, fel yn yr amser gynt, yn ynys gynhwysol… ‘Pan elo gof yn ei efail ni ddichon ei gaethiwo wedi hynny’ - curiadau cain ei weledigaeth sy’n drac sain cenhedlaeth gyfan, a’i riddim sydd yn ein rhyddhau… Ifor ap Glyn
Programme Website