ÃÛÑ¿´«Ã½

Use ÃÛÑ¿´«Ã½.com or the new ÃÛÑ¿´«Ã½ App to listen to ÃÛÑ¿´«Ã½ podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Episode details

Radio Cymru,8 mins

Bore Sul - Geraint Lovgreen

Dewi Llwyd ar Fore Sul

Available for over a year

Bore Sul Mae’n fore Sul yn Nulyn ond di rwbeth ddim yn iawn; mi ddylwn i fod yno efo peint o Ginis llawn ar ôl hwylio o Gaergybi i hud yr Ynys Werdd: ond dyma fi yn styc yn tŷ yn trio sgwennu cerdd. Mae Joe’n absennol hefyd, ’di Gareth Bale ddim ’ma, Hal Robson Kanu heb ddod chwaith so dwi mewn cwmni da. Gartref fyddwn ni bob un yn gaeth o flaen y teli i wylio gêm efo llai o dorf ond rywsut, mwy o beli. Achos er nad oes cefnogwyr, pob enaid byw yn banned, mae’n rhaid ’nw gael pêl newydd bob tro eith un i’r stand rhag ofn bod y feirws yn stelcian yn rhes O yn aros am gic ceffyl gan droed chwith Kieffer Moore. Ta waeth, nôl at y ffwti, mae heddiw yn gêm fawr ddim fatha’r nonsens ’na nos Iau: ma’i mlaen mewn pedair awr Mae’r ddraig goch ar y piano ac mae’r cyrtens wedi’u cau a’r ornest dyngedfennol ar S Pedwar C am ddau. Ac felly ar y Saboth, gweddïwn am dair gôl a diolch wnawn i’r Arglwydd mawr fod Aaron Ramsey’n ôl!

Programme Website
More episodes