Episode details

Available for over a year
Bardd y mis Bardd y mis? O, c’mon, plîs! does gena’i’m y ddawn i farddoni’n iawn mewn cynghanedd sain, cyflythrennu cain creu delweddau hardd achos dwi’m yn fardd! Dwi ’di deud o’r blaen dwi ddim isio’r straen o fod yn fardd go iawn hyd yn oed am bnawn, felly pam dwi yma fel rhyw fardd drama? rhigymwr ydw i limrigwr o fri go lew efo geirie ond sgena’i’m cadeirie ’blaw rhai o siop Perkins ac un nes i’n woodwork, un sy gen i ers oes efo dim ond tair coes. a sgenna’i ddim coron a gen i ofn y corona feirws, dwi heb fynd i le’m byd, heb weld ffrind na neb arall ers oes pys a does gena’i ddim brys i neud, chwaith, ond am hynny sgenna’i’m byd i sgwennu mond deud ac ailadrodd NAD bardd mohonof! Geraint Lovgreen
Programme Website