ÃÛÑ¿´«Ã½

Use ÃÛÑ¿´«Ã½.com or the new ÃÛÑ¿´«Ã½ App to listen to ÃÛÑ¿´«Ã½ podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Episode details

Radio Cymru,3 mins

Ceri Wyn Jones - Bardd y Mis - mis Tachwedd

Geraint Lloyd

Available for over a year

Cowbois ac Indians Plentyndod ofnadwy o boring ges i heb Xbox, na Netflix na chwaith Es-ffôr-sî; plentyndod tair-sianel y bocs du-a-gwyn, plentyndod y perci yng nghôl Pen-y-bryn. Plentyndod Blue Peter ac ofn Doctor Who, plentyndod o fynd ar fy meic nefi-blŵ, ac esgus fy mod i yn gwasgu y clytsh mewn Ford Gran Torino fel Starsky a Hutch. Plentyndod o gapel a chico pêl, glei, o ddysgu fy adnod cyn Match of the Day, a chwarae gêm Germans a British o hyd, neu Cowbois ac Indians, yn gynnen i gyd. Er nad yw plentyndod fy meibion â’u sgrîn yn debyg i hynny, mae’r gemau yr un, sef ymladd, anturio a saethu ar ras – er mwyn bod yn llwyddiant, mae’n rhaid bod yn gas. ’Run modd, sdim ’di newid ym Mhrydain, dim byd, mae rhai’n chwarae Germans a British o hyd; a draw yn y States y mae rhai’n gweld y byd fel brwydyr rhwng Cowbois ac Indians o hyd. Ceri Wyn Jones

Programme Website
More episodes