ÃÛÑ¿´«Ã½

Use ÃÛÑ¿´«Ã½.com or the new ÃÛÑ¿´«Ã½ App to listen to ÃÛÑ¿´«Ã½ podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Episode details

Radio Cymru,7 mins

Cystadleuaeth Sgwennu Stori

Aled Hughes

Available for over a year

Sgwennu Stori Aled Hughes Mae rhaglen Aled Hughes ar ÃÛÑ¿´«Ã½ Radio Cymru yn cyflwyno cystadleuaeth i ddisgyblion ysgolion cynradd Cymru. Rydym yn galw ar y disgyblion i ysgrifennu stori o ddim mwy na 500 gair ar thema "Y Llwybr Hud". Mae tri chategori – • Cyfnod Sylfaen, sef 5-7 oed • Cyfnod allwedol 2a, 7-9 oed • Cyfnod allweddol 2b, 9-11 oed Bydd Aled yn cyhoeddi’r enillwyr ar ei raglen yn ystod yr wythnos sy’n arwain fyny at Ddiwrnod y Llyfr, a bydd yr enillwyr eu hunain yn derbyn rhodd gan y Cyngor Llyfrau. Llio Maddocks yw’r beirniad fydd yn pori drwy'r straeon ac yn dewis y dair stori orau. Bydd y gystadleuaeth yn cael ei lansio yn swyddogol ar raglen Aled Hughes, ar 15 Rhagfyr 2020. Os am gystadlu, rhaid i'r ysgol anfon eu straeon drwy’r ysgol (ynghyd a ffurflen gais sydd i’w chael ar wefan Radio Cymru) i Radio Cymru erbyn y dyddiad cau, Ionawr 25ain, 2021. Y cyfeiriad yw: Stori Fer Aled Hughes ÃÛÑ¿´«Ã½ Radio Cymru Bryn Meirion Bangor LL57 2BY Rhaid nodi'n glir ffugenw’r disgybl, y categori ac enw’r ysgol ar ben pob stori os gwelwch yn dda. Bydd angen i'r ysgol gadw rhestr o'r enwau sy'n cyd-fynd a'r ffugenwau. Am ragor o wybodaeth cysylltwch â rhaglen Aled Hughes ar aled@bbc.co.uk POB LWC!

Programme Website
More episodes