ÃÛÑ¿´«Ã½

Use ÃÛÑ¿´«Ã½.com or the new ÃÛÑ¿´«Ã½ App to listen to ÃÛÑ¿´«Ã½ podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Episode details

Radio Cymru,10 mins

Cerddi Gwneud Gwahaniaeth John Gwilym Jones a Tudur Dylan Jones.

Bore Cothi

Available for over a year

Y Bachgen nawmlwydd anodd Roedd Gareth y Ferwig yn anodd ei drin Roedd bron bob diwrnod yn groes ac yn flin, Fe heriai’r athrawes o hyd ac o hyd Nes tynnai ef sylw y dosbarth i gyd. Ni wyddai Miss Williams beth allai ei ddweud Na beth ar y ddaear y gallai ei wneud; Ond yna un dydd pan aeth pethau fel ffair Gofynnodd i Gareth ddod ati am air. Awr ginio’n y stafell fe safai yn syn. Yr unig beth ddwedodd Miss Willams oedd hyn: Rwy am iti ddeall un peth, meddai hi, Os byth y bydd rhywbeth yn ofid i ti, Gofynna amdanaf, ac fe fyddaf wrth law, Fe wrandaf fi arnat, beth bynnag a ddaw. Am allan yr aeth hi, a Gareth yn fud, Ac allan aeth yntau yn gryndod i gyd. Drannoeth y bore, roedd Gareth yn gwylio Miss Willams yn cyrraedd yr iard, ac yn parcio. Aeth ati yn betrus a dwedyd, wrth ddod, "Pan ddwedsoch chi wrthyf, Miss Williams, eich bod yn barod i wrando - unrhywbryd - arna'i: Wel chi ydi'r cynta i ddweud hynny wrtha'i." Ac yna’i athrawes a’i clywodd yn dwedyd, "Mae'r hyn ddwedsoch ddoe wedi newid fy mywyd." Ac wrth i Miss Willams fynd at dasgau y dydd Roedd deigryn bach tawel i'w weld ar ei grudd. John Gwilym Jones Gwneud Gwahaniaeth Pan fo’r storm weithau’n ormod, pan na bydd ond poen yn bod, i’r waedd bob amser a wêl ond düwch, iddi’n dawel doed ryw awr, fel haul ar draeth, i gynnes wneud gwahaniaeth. Un gair, fel angor i gwch, yn awr all greu tynerwch hyd yr hwyr, nes dod â’r haf draw ym merw’r storm arwaf; sŵn un gair i’r un sy’n gaeth, hynny all wneud gwahaniaeth. Un llais, neu neu deimlo un llaw yn dal, neu glywed alaw, ac fel erioed, wrth oedi gydag un cytûn, fel ti, fe ddaw’r gwell i faeddu’r gwaeth â gwên sy’n gwneud gwahaniaeth. Tudur Dylan Jones

Programme Website
More episodes