ѿý

Use ѿý.com or the new ѿý App to listen to ѿý podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Episode details

Radio Cymru,4 mins

Beibl Anni Llŷn

Aled Hughes

Available for over a year

Mae’r Beibl yn drwm. “Mae’r Beibl yn blincin trwm... ...fedrai’m ei gario fo siwr Dduw...” a’r daith ar draws y ddinas yn ormod ar ddwy droed, ar ddiwedd dydd, er gwaetha maint y gymwynas, o’r trydar i’r radio i’r DM i’r tecstio, er mwyn i’r Beibl gael dod adra. Mae’r beibl yn drwm. Mae hi’n galw am lifft. Ond ar ei glin mae’r horwth yn trymhau ac inc yr enwau’n twchu nes llifo’n driog dros ei choesau... Robert Roberts Elen Clarissa Jones Thomas John John Palfrey Allan ac Ada a’r staeniada’n ganghenna coeden ar hyd ei throwsus yn ei harwain yn ôl hyd linach y Jonsus. Mae’r Beibl yn drwm. Mae naw gair, ers canrif a hanner, yn naw stôn o awdurdod capten llong: Robert Roberts is the true owner of this book. Pwys wrth bwys, adnod wrth adnod, mae’n gwasgu ar ei chluniau... Melldigo Cain. Ezeciel yn bwytta’r llyfr. Ing a chwys gwaedlyd Crist. Y wraig wedi ei gwisgo â’r haul a’r lleuad o dan ei thraed. A’i thraed hitha’n binna bach, bellach, achos mae’r Beibl yn drwm. Mae arogl oed yn llenwi’r car, ond nid amser mae’n synhwyro. Pellter. “Boston?!” Penllech, Tudweiliog, Llaniestyn, Lerpwl a Boston... ac mae olion bysedd y blynyddoedd, fu’n dal mor dynn yn y clawr ar frig sawl ton, yn ei wthio i lawr eto i wneud yn siwr ei bod yn teimlo ei bwysau’n llawn. Ydi, mae’r Beibl yn drwm. Heddiw, roedd yn rhy drwm i’w gario. Ddoe, roedd yn rhy drwm i beidio.

Programme Website
More episodes