Episode details

Radio Cymru,8 mins
Croesawu trafodaethau yr Eglwys ar fendithio priodasau un rhyw
Dewi Llwyd ar Fore SulAvailable for over a year
Mae'r Eglwys yng Nghymru yn cydnabod bod y bil bendithio priodasau un rhyw yn ddadleuol ond maent yn ei ddisgrifio fel "cam yn y cyfeiriad cywir" ac maent yn dweud bod yna wir ymgais i ddangos bod yr eglwys yn edifar am y ffordd y mae hi wedi trin pobl hoyw yn y gorffennol. Mewn datganiad ysgrifenedig cydnabyddir bod gan yr yr Eglwys yng Nghymru "hanes o felltithio ac erlid hoywon a lesbiaid" a nodir bod "nifer wedi cael eu gorfodi i fywyd o ofn, anonestrwydd ac weithiau rhagrith ac wedi eu heithrio rhag byw bywydau cyhoeddus ac onest a rhannu partneriaeth ymrwymol". Dywed y Parchedig Enid Morgan, un o'r merched cyntaf i'w hordeinio'n offeiriaid, ei bod yn croesawu datganiad o'r fath.
Programme Website