Episode details

Available for over a year
Hela’r Dryw Bach Dwi’n ei hela yn y coed ac yn y caeau. Yn ei ddilyn trwy ddail eiddew, heibio tafodau’r menyn eithin a brigau’r celyn ond mae’n rhu chwim. Mae’n troi yn eog, y tric arferol, a dwi’n plymio mewn i’r afon, yn ei geisio yn y dyfroedd oer-las, eirias, dŵr sy’n drydan drwy’r tu mewn. Ond mae o’n chwerthin am fy mhen, yn llamu fyny’r pistyll a throi yn llwynog cringoch, ac yn rhedeg am y dre. A dwi’n dal i’w ddilyn, trwy’r strydoedd prysur a’u golau pinc a gwyrdd a gwyn, ond mae’n diflannu yn y dorf. Y tro nesa dwi’n ei weld dwi’n gyrru i’r gwaith, ac mae’n croesi’r lôn o’m blaen yn ddarn o bapur lapio, neu’n robin goch, neu’n ddeilen grin. Ac mae’r wawr sy’n torri o mor hwyr yn taflu ei llwch i mewn i’m llygaid a’m dallu. Ac mae’n diflannu eto, yn troi yn lwmp o lo, yn bapur ddoe, yn droed ôl draenog, yn benglog bran, yn bwdin plwm, yn fwlb wedi torri, yn faneg goll, yn ‘turkey meal for one’, yn set monopoly, yn goron gracer, yn fatsien. Neithiwr, mi welais y dryw bach ar lain o wair a phwt o wrych rhwng cefnau’r tai a’r briffordd. Y brenin bach a’i big yn y bregliach yn chwilio am dyfiant newydd. Grug Muse
Programme Website