ÃÛÑ¿´«Ã½

Use ÃÛÑ¿´«Ã½.com or the new ÃÛÑ¿´«Ã½ App to listen to ÃÛÑ¿´«Ã½ podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Episode details

Radio Cymru,10 mins

Matthew Tucker Bardd Mis Ionawr 2022.

Bore Cothi

Available for over a year

Cerdd Bardd y Mis – Ionawr 2022 I Gofio Cylch Meithrin Yr Hendy (Cyn imi fynychu’r cylch yma, roedd yr adeilad yn gartref i Aelwyd Yr Urdd y pentref, ac yr oedd yn gadarnle i’r Cymry Cymraeg lleol.) Aeth yr iaith heibio’i throthwy, a chwerthin y meithrin mwy, a’r Gymraeg â’i miri hi yn fud, heb atgyfodi, a di-raen yw’r pedair wal yn hun fy neuadd anial. Yma, bu oes o groeso. Hwb i’r iaith, cadarnle bro, ein credo a’n caer ydoedd, a thŷ ein treftadaeth oedd. Yn wir annedd i’r heniaith, mur oedd ym mwrlwm yr iaith. Hir yw loes y ffarwél hon, fy aelwyd sy’n adfeilion. Rhiniog fy mabinogi, a dôr fy mhlentyndod i oedd hon, ond annedwydd wyf; o hyd galarus ydwyf.

Programme Website
More episodes