蜜芽传媒

Use 蜜芽传媒.com or the new 蜜芽传媒 App to listen to 蜜芽传媒 podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Episode details

Radio Cymru,21 mins

Bardd Mis Chwefror - Sion Tomos Owen

Rhys Mwyn

Available for over a year

鈥淣O DANCE MUSIC IN THE MAIN HALL鈥 ar 么l Pentre & Ystrad Labour Club, 2001 Yng ngrombil atgofion fy arddegau ar bigau drain i fwynhau nos Wener, gyda llai na tenner yn fy mhoced i ddal tren lawr y cwm, y lynx africa'n swmpus yn y cerbyd, y posibiliadau enbyd, j卯ns digon tyn i frifo ac yn dal i ddysgu'r gwahaniaeth rhwng goth ac emo. Yr un poster bob tro: "Friday Night band showcase 拢3 entrance NO DANCE MUSIC IN THE MAIN HALL!鈥 Mewn llythrennau bras O dan y disco ball Ym m么l y fuwch Uwchben y Labour Club. Camau ysgafn trwy drysau trwm, hwn oedd y ddefod heb dafod, dim trafod wrth y lounge bar, i wahannu'r genhedlaeth gyda grisiau, a prisiau wedi pegio, Gwyn llachar yn erbyn y du, ar yr unig wal heb anaglypta a'r barmaid 'da tattoo o'i chariad presenol ar y fraich oedd yn tynnu'r peints neu'n taflu chi mas. Grwpiau glasoed, gwynebau gwyn llachar, o dan gwallt du, a rheini lawr st芒r yn syllu'n syn ar dyllau mewn clustiau yn fwy na鈥檌 cegau agored. Fel pysgod Yn ein m么r o "gerddoriaeth". Yn aros am y llanw stormus ddaw o'r drum kit, mellt yn ein traed yn tarranu yn mhob mosh pit. Bob yn ail weekend welai'r boi o鈥檙 chweched Yn troi mewn i ddyn, Yn rhedeg ei fysedd Dros gyllell o gitar A crafu riff anniben i mewn i鈥檓 mhen, 脗 bwyell o f芒s yn dirgrynnu nghalon yn lythrenol Gan bo鈥檌 Marshall stack yn fyddarol, Tinitus yn uno pawb, fel y stamp ar gefn llaw, dal yna'r bore nesa, yn brawf o' chi yna. Ac er bod y canu wastad yn Yoko y j么c oedd bo band gallu ffurfio ar n么s Iau ac agor y noson wedyn, yr hedyn o obaith bod taith yn bosib (Neu ail gig o leia). Y llen melfed coch yn cael ei dynnu i'r ochr 芒 rhochian llais Nu Metal yn dechrau sgrechian i mewn i'r mic a'r fight anochel ddaw cyn i Freddie a'i rhapsody rhoi'r ffidil yn y sound system, mayhem bach diniwed ar ddiwedd y n么s yn troi'r golau 'mlaen, yn wyn llachar ar 么l y du, i ddanfon bawb shathre ar bererindod i ffeindio car mam a dad, kebab neu i grwydro tan hwyr yn deall fydden ni'n fyddar tan fory heb wybod eto taw hiraeth oedd yn canu yn ein clustiau. Sion Tomos Owen

Programme Website
More episodes