Episode details

Available for over a year
Pan fod ie’n ddigon Heddiw, ar bnawn Sadwrn prysur llawn siopwyr, mi gerddais drwy goedwig y baneri cochion a chlywed sŵn curiadau calonnau’n drymio’n daer yn curo, curo ar waliau’r ddinas, ac fe deimlais innau ’ngwaed yn rhedeg rhyw fymryn yn gynt, am i mi glywed ‘Ie’ ar y gwynt a’i weld ar wefusau pobl wrth fynd heibio, eu gweld yn nodio, yn cytuno – fi a’r miloedd eraill fu yno’n martsio, yn gobeithio, yn breuddwydio, yn dymuno gweld pethau da yn digwydd unwaith eto. Gweithred lon o gredu yw dweud ‘Ie,’ chi’n gweld, mae’n wahanol, yn gadarnhaol, yn ddewis bod yn adeiladol ac yn y broses ein gwneud ninnau’n bobol sy’n mynnu cynnydd yn lle cyni, bod yn ddewr yn lle ofni. Achos am yn rhy hir fe drodd bob dim yn llwch dan gysgod hyll hen goncwerwr, a nawr fe wyliwn ni wingo angheuol yr ymerawdwr hunan-niweidiol a’i stumiau creulon yn crafu a chrafangu gan frifo pawb o fewn cyrraedd ei ddeg-ewin negyddol. Ond yn dawel bach, fe ddywedwn ni ‘Ie ... Ie ... Ie ...’ eto ac eto, yn uwch, yn uwch bob tro, hyd nes i’n lleisiau godi’n llu, yn rhu llawen, a phawb i ddechrau gwenu, achos peth da yw dweud ‘Ie’ i bethe – mae’n gam tua’n goleuni.
Programme Website