ÃÛÑ¿´«Ã½

Use ÃÛÑ¿´«Ã½.com or the new ÃÛÑ¿´«Ã½ App to listen to ÃÛÑ¿´«Ã½ podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Episode details

Radio Cymru,8 mins

Sian Melangell Dafydd Bardd Mis Chwefror Radio Cymru.

Bore Cothi

Available for over a year

Cadw amser, cerdd i Imbolc, Gŵyl y Gannwyll Nodyn: Imbolc: 1af Chwefror – 3ydd Chwefror Yn Iwerddon, roedd Brigit (tarddiad enw Afon Braint, Môn) yn dduwies Geltaidd – daeth Imbolc i fod yn ŵyl y santes Brigid yn Iwerddon: hi oedd duwies barddoniaeth a iechyd, bydwreigiaeth a genedigaeth, cartref ag aelwyd, gefail a gwaith metel. Ganed hi â’i thalcen yn llawn fflamau tanbaid, yn ôl y sôn. Ei gŵyl hi yw Imbolc. Ond yng Nghymru, mae Gŵyl y Gannwyll wedi ei berchnogi gan gristnogaeth a’i droi’n Gŵyl Fair y Gannwyll. A mae gen i ddiddordeb gwybod mwy am beth oedd hi, cyn y trawsnewidiad hynny, hyd yn oed drwy fenthyg gan ein cefndryd celtaidd, ond hefyd drwy ofyn i’n tiroedd ein hunain, beth wir yw ein perthynas â rwan, y dydd hwn, yn y tymor hwn. Achos dwi’n credu y gallwn greu gwreiddiau newydd. Dod yn ôl at ddefodau newydd. Dod yn ôl at ein coed. Imbolc: dathlu’r dyddiad hanner ffordd rhwng heuldro’r gaeaf (21 Rhag) a chyhydnos y gwanwyn. Imbolc: ‘yn y bol’ – gaeleg Iwerddon (‘i mbolg’) – fel y ‘bol’ yn Gymraeg Cadw amser, cerdd i Imbolc, Gŵyl y Gannwyll Mae dau beth yn symud. Cysgod y fflam, a’r fflam ei hun. Y cysgod sy’n symud dros fy nghorff, finnau’n llonydd a’r dydd ar daith. Mewn rhai ieithoedd eraill, does dim gwahaniaeth rhwng tawelwch a llonyddwch. Edrychaf ar y gannwyll fel mai hi sy’n dal yr aer yn ei le, yn dawel, yn llonydd. Mae hi’n diflannu gymaint ag y mae hi’n sefyll. Wedi ei chynnau, nawr mae popeth yn fwy bwriadol rhywsut – dof yn ôl i hen ddefodau drwy nôl hon, wic syml mewn cwyr gwenyn. Tra bo coed tu allan yn ysgwyd eu cen blewog yn y gwynt, yn gwaeddi eu gaeaf, mesuraf y pellter o’u gwegian nhw i’m calon i. O’u cwsg i ddyddiau cyntaf gwanwyn. Mesur – dau funud a saith eiliad yn fwy o olau bob dydd ar ôl yr unfed ar hugain o Ragfyr. Awr yn fwy o faldod haul bob mis wedyn. Mwy o wnio, mwy o ddarllen, mwy o anadl effro. I le’n union aeth munud tywyll ddoe? Ac o le ddaeth y munud ychwanegol o olau heddiw? Credai rhai erstalwm mai gaeafgysgu mewn llaid llynoedd wna gwenoliaid, nid gadael i le pellach. Haws credu’r lleol. Yno mae munudau’n mudo efallai? Golau’n suddo i lyn, i bwll, i afon, i ddrych, i mewn i’w hadlewyrchiad eu hunain ac yn ôl eto. Ond does dim modd mesur popeth. Myddyliaf eto am y gannwyll fel cloc larwm y Rhufeiniaid. Nhw fu’n mesur llosg amser. Un hoelen i bob awr ar asgwrn cefn cannwyll lonydd, union. Yr haearn yn tolcio lle byddai chwech o’r gloch, neu saith o’r gloch. Haearn yn fwy cywir na cheiliog. O ddeall tân a deall mater, o losgi drwy’r nos heb awel nag anffawd, byddai, nid toc, ond tinc. Felly’r unig beth i’w wneud oedd cysgu gyda ffydd ac un glust effro, nes i’r haearn o’r cwyr, daro derw. Bydd y golau mor isel ag oen newyddanedig ar ddiwrnod cyntaf y mis tywyll. Ond yfory bydd dydd goleuach. Yfory bydd dydd goleuach. Daw prancio’r glaw, daw chwyn, daw meddalwch caeau cyfan o ddant y llew, Daw cloroffyl, daw mydryddiaeth ysgyfarnog i’m calon fesul diwrnod. Ond yn gyntaf, daw amser i nodi’r hanner ffordd, heno, a’r gannwyll, mewn sawl iaith, yn sefyll am obaith.

Programme Website
More episodes