ÃÛÑ¿´«Ã½

Use ÃÛÑ¿´«Ã½.com or the new ÃÛÑ¿´«Ã½ App to listen to ÃÛÑ¿´«Ã½ podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Episode details

Radio Cymru,6 mins

Angharad Penrhyn Jones Teulu'r Talwrn.

Bore Cothi

Available for over a year

Telyngeg ar y testun ‘Cludo’: Aeth saith mlynedd heibio, ond yn y pwll nofio ar b’nawn Sadwrn, yng nghanol miri’r plant, dwi’n meddwl amdanat. Dwi’n dychmygu’r cwch yn dy ddal fel cledr llaw ar dy daith rhwng dau fyd. ‘Machgen i, roeddet ti’n fach, fach, yn ddiferyn mewn môr di-derfyn, yn rhy fach i nofio, i achub dy fam a’th frawd, rhy fach i freuddwydio am deimlo’r tir o dan dy draed, oedd mor oer y noson honno yn dy sgidiau gwlyb. Gwelais dy lun ar y wê. Ar lan y môr. Y breichiau cryf yn dy gyrraedd yn rhy hwyr. Gwelais dy grys-t coch, y clwt o dan dy siorts. Gwelais lun o’r cwch rwber, rhad. ‘Nghariad i. Dy enw oedd Alan Kurdi.

Programme Website
More episodes