Episode details

Available for over a year
Croesawu’r Gwanwyn Mae hi’n wanwyn eto, ac mae’r coed yn blaguro i gyd; mae’r cennin pedr â’u lledrith yn melynu’r lôn, a chyn hir fe ddaw’r gwcw, ar ôl iddi oedi gyhyd, i disian ei dwysill, i daenu undonedd ei thôn. Aeth dau o’n gwanwynau i’r gwellt. Un gwanwyn daeth haint i’n merwino a’n rhynnu, a pheri inni grynu’n y gwres gan arswyd a gwaeledd ac ofn; rhag cynyddu maint y golled fe’i cadwai’n ein tai a’n cloi rhag y tes. A’r llynedd, ar drothwy’r gwanwyn, heb i neb ein rhybuddio, roedd y tanciau o Rwsia yn croesi’r ffin i Wcráin i falurio pobol a thai, i ladd a llofruddio, a thynged y byd yn ymgrogi ar edefyn main. A gawn ni groesawu’r gwanwyn, er bygythiad y gwn, â gorfoledd newydd, â llawenydd yr Ebrill hwn?
Programme Website