Episode details

Available for over a year
Petryal o olau ar lawr pren Gwen John ym Mharis Dyma hi – yr eiliad a’i daliwyd dros ganrif yn ôl ar brynhawn o haf wrth iddi sefyll áºâ€™i brwsh fel cleddyf yn ei llaw i dreiddio a chipio’r golau. Yna. Mae’r petryal yn arnofio fel cwch ac mae’r haul yn rowlio yn ei flaen. Llychlyd yw’r llawr pren ond mae’r petryal yn wynias ar ei chynfas. Edrychwn arno nawr. Yn llonydd. Yn dal i dywynnu.
Programme Website