ÃÛÑ¿´«Ã½

Use ÃÛÑ¿´«Ã½.com or the new ÃÛÑ¿´«Ã½ App to listen to ÃÛÑ¿´«Ã½ podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Episode details

Radio Cymru,8 mins

Bardd Mis Awst Buddug Watcyn Roberts

Bore Cothi

Available for over a year

Barbie Bragdy Boduan Ydi Barbie yma ym Moduan? ‘Di hi’n gwbod am Gymru - gwlad y gân? Geith hi alw fama’n ‘hafan’? A ŵyr hi sut mae cynnau tân? Gath hi’i magu mewn hen ffermdy’n fwd a llaid gerllaw y lli? ‘Di hi’n rhan o gynaeafu Gwerth a gwae’n bodolaeth ni? Oes ’na groeso i Barbie yma’n Nghymru? Canwn fawl i Forfudd a Dyddgu, Felly pam ddim Barbie? Ond cwestiwn arall, gwell sydd gen i- Ydi Barbie yn barddoni? Dwi’n siŵr iawn ei bod hi, Ma’i bendant yn gallu, Yndi, ond dim ond iddi gyfaddef – mai Ken sydd yn rhagori. ’Falle’i bod hi yma’n cystadlu! Wele’r dorf yn dod yn llu, Wele bawb yn dod i syllu, Ond syllu ar ei harddwch hi. A oes croeso brwd i Barbie yn y Bragdy bonedd hwn? Yr oll a fynn y ddol ddelfrydol Yw ei rhyddid hithau’n ôl. Grym holl ryddid canu caeth, Grym a hawliau ei chenhedlaeth. A gaiff, dybed, gamsillafu? Caniatad i wneud mistêc, Rhwng y berfau, treiglo, ac arddodiaid… Mae pawb yn haeddu brêc! Ond nid un Barbie’n unig sydd yng Nghymru, mae na fwy na choeliwch chi, A phob un sydd yn barddoni Ac yn trio ffeindio’i llwyfan hi. Mae hi yma, yn ei nifer Pan wyt ti a fi yn hawlio’n hyder; Ar lwyfan byd o lwydni llaith- Dan ni’n chwa o liw a gobaith. A dwi’n siŵr, ym mer fy esgyrn fod na ferched yn fan hyn fod ‘na Farbie yma o hyd, A’r hyn dwi’n w’bod ’hefyd Waeth beth a welan nhw pan dan ni’n gwenu, Dan ni’n lot, lot mwy na lliw ein gwallt ni.

Programme Website
More episodes