Episode details

Available for over a year
Cario’r Corwg Daliwn i gario’r corwg drwy oriau mân rhwydi’r mwg sy’n codi o Deifi’n darth – corwg cain fel craig Cenarth; cario gan obeithio bod ambell asgell o gysgod helyg am godi’i hwyliau yn y dŵr rhyngom ein dau. Dau i’w walts ar ddrych y dŵr yn cerdded, at y corddwr o lif i lywio i afael ei gerrynt hŷn, tyner, hael ydym ni; dau yma’n un â’r rhyd a’r dyfnder wedyn; cof cyfan rhwng ceulannau yn ein rhwyd lawn yn parhau. Ond mae’r sewin yn brinnach o fawn i fôr, dalfa’n fach o’r afon sy’n trochioni, a than warth ein carthion ni rhwng graean mân heno mae y tail a’r hen fetelau, a rhwydwaith maith tir a môr yn twymo fesul tymor. Be wnawn â’n rhwydi llawnion? a llyw iaith sy’n deall hon, afon ein holl hynafiaid? Be wir, a gwenwyn di-baid y teid yn boeth o bob tu, enwau’r pyllau yn pallu? Be wnawn ond cario’r corwg a mynd yn dawel i’r mwg? Hywel Griffiths
Programme Website