ÃÛÑ¿´«Ã½

Use ÃÛÑ¿´«Ã½.com or the new ÃÛÑ¿´«Ã½ App to listen to ÃÛÑ¿´«Ã½ podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Episode details

Radio Cymru,10 mins

Bardd Mis Hydref Clare Potter.

Bore Cothi

Available for over a year

Cyfarfyddiad Y dyddiau hyn, byddaf yn gweddïo o dan goeden, neu yn eistedd ymhlith emynau’r peilon trydan achos bob nos heb gysgu, y blancedi gwely fel flotsam a jestsom, does dim lle am atebiad Duw. Heddiw, yn ystod y wawr tra bo’r holl dŷ yn dal i gysgu es i â fy hun i'r maes lle gwelwyd yr UFO gan y trigolion ar waelod y Garth, lle oedd y tarth yn codi dringais dros ffens weiren bigog yn chwilio am arwyddion ‘ffurf-bywyd estron’ Cynhyrfodd grym anhysbys guriad fy nghalon wrth i mi sefyll yno yn gwisgo siôl dylluan Roedd creithiau llosg ar foncyffion coed o'r llong ofod wedi gordyfu â ffyngau Gorffwysais fy nwylo yno, ar y ffyngau siâp clustiau Yn aros am gyfarwyddiadau . . . Llanwasant y lle, yn yr awyr uwch ben yr hesg a’r ysgall y fronfraith brysur, y gnocell werdd yn tapio neges, grawcian y gigfran, hyd yn oed fi yn tisian. Daeth yr ysgrythur cosmig ar siffrwd canghennau, cynghanedd y coed trwy ddail yn cael eu gwasgaru

Programme Website
More episodes