ÃÛÑ¿´«Ã½

Use ÃÛÑ¿´«Ã½.com or the new ÃÛÑ¿´«Ã½ App to listen to ÃÛÑ¿´«Ã½ podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Episode details

Radio Cymru,1 min

'Robin' - Meleri Davies (Bardd y Mis)

Aled Hughes

Available for over a year

Cerdd Nadoligaidd gan Fardd y Mis Rhagfyr 2023, Meleri Davies. Dyma 'Robin': Yda chi’n fy ngweld i ar riniog eich bifolds disglair yn canu’r dydd a chanu’r nos? Fy mrest yn nodau cynnas i gyd yn tarro’r paen. Yda chi’n clywed fy nghân fel clychau Sion Corn ar yr awel? Fy nghalon lân yn curo’n ysgafn ar eich drws – lle nad oes briwsion. Welwch chi ddawns fy nhraed yn gylchoedd sêr ar eich stribyn lawnt? Patrymau’n diflannu wrth i’r eira ola doddi. Fyddwch chi’n cofio fi’n canu i chi ffrindia - fy mhen yn gam, yn holi pam?

Programme Website
More episodes