Episode details

Available for over a year
Pan glywais am dy farwolaeth, er imi dy weld yn chwarae lawer gwaith, aeth fy meddwl yn ôl i un gêm arbennig iawn: gêm gyntaf un yr Elyrch yn yr Adran Gyntaf, a ninnau wrthi yn chwifio baneri ein dyrchafiad o adran is. Gêm hanesyddol oedd honno, prynhawn Sadwrn olaf Awst dair blynedd a deugain yn ôl, a ninnau’n chwarae yn erbyn Leeds, un o’r timau gorau, un o gewri byd y bêl ar y pryd, y Goliath hwn a gâi fuddugoliaeth hawdd ar ein Dafydd newydd ni, neu felly y tybiem. Prynhawn meddwol oedd hwnnw: roedd y dorf ar dân, a’n llafarganu yn treiddio trwy holl Forgannwg, yn atsain nes cyrraedd Leeds; a digwyddodd gwyrth, ni a enillodd o bum gôl i un: Y cawr ar lawr a Dafydd wedi ei falurio, a pheniad oedd ei ffon dafl. Ti oedd y seren: ti oedd y tu ôl i rai o’r goliau: dwywaith y croesaist y bêl i Latchford gyrraedd ei darged, deirgwaith i gyd. Yn union dri a deugain Awst yn ôl fe’n gwefreiddiaist ni, ti a thîm Abertawe yn rhoi dinas ar dân. Mae’r Fetsh wedi mynd erbyn hyn; meinciau a pharc sydd yno mwy yn coffáu maes chwarae’r Elyrch gynt; mae’r llafarganu wedi distewi yn stond; mae’r sloganau a’r llumanau wedi mynd; mae cliciadau’r clwydi a’r cloc i gyd wedi mynd; mae’r trafod mawr, mae’r tyrfâu wedi mynd, ac mae Leighton ei hun wedi mynd. Erbyn hyn mae gan yr Elyrch stadiwm newydd, ond ’dyw’r cyffro ddim yno mwy. Chwiliais am hanes y gêm ar y we a chael fideo yno ohoni, fideo o’r gêm fythgofiadwy honno un prynhawn heulog o haf, ac am ychydig eiliadau, siwrneiais am yn ôl mewn amser nes ymuno eilwaith â’r dorf ar y dydd. Ac wrth wylio’r fideo o’r Fetsh ar y prynhawn tanbaid hwnnw, caf eto dy wylio di yn chwarae’r gêm, yn ochor-gamu, yn siwglo â’r bêl, yn dangos dy sgiliau i’r byd, yn driblo o hyd â’r bêl hon, y bêl hon sydd eto o’n blaenau, a chaf innau, am ychydig funudau, fy ieuenctid yn ôl. A bellach mae’r gêm hanesyddol honno, y gêm chwedlonol honno erbyn hyn, ar gael o hyd y tu mewn i amser ac allan o amser, ac rwyt tithau, Leighton, yn dal i gynhyrfu’r dorf ar fideo’r cyfrifiadur.
Programme Website