Episode details

Available for over a year
"Un o broblemau iechyd meddwl yw bod rhywun yn gyndyn o sôn am y pethau yma," medd y canwr Endaf Emlyn sydd ar fin cyhoeddi ei hunangofiant. Fe fydd y gyfrol yn dathlu hanner canmlwyddiant rhyddhau ei record Salem ac ynddi mae'n trafod yn gyhoeddus am y tro cyntaf ei iselder yn fachgen ifanc. Mae'n annog dynion eraill i siarad mwy am iechyd meddwl. Yn y gyfrol 'Salem a Fi' ac yn ei gyfweliad sonia hefyd am ddylanwad capel Pen-mownt ym Mhwllheli arno. "O'n i'n cael ein socian mewn Methodistiaeth ac yn mynd i'r capel rhan fwyaf o nosweithiau'r wythnos a theirgwaith ar y Sul," meddai "Roedd dydd Sul yn ddydd cysegredig a doeddwn i ddim yn cael chwarae pêl na dim byd. O'dd e'n ddylanwad cyson drwy fy mhlentyndod ac yn ddysgeidiaeth hefyd. "O'n i yn un o'r rhai hynny oedd yn tueddu i wrando ar y pregethau os oedden nhw'n ddiddorol - o'dd e'n cael cryn effaith arnai."
Programme Website