Episode details

Available for 215 days
Doedd hi ddim y ffarwel delfrydol i garfan Rhian Wilkinson wrth chwarae am y tro olaf cyn Ewro 2025 yn Y Swistir. Roedd y gêm yn Abertawe wedi ei cholli cyn hanner amser wrth i'r Eidal sgorio pedair gôl yng ngem olaf yr ymgyrch yng Nghrŵp A Cynghrair Y Cenhedloedd. Mi fydd Cymru felly yn mynd i'w ymddangosiad cyntaf yn rowndiau terfynol un o brif gystadlaethau'r byd heb ennill yn eu chwe gêm ddiwethaf. Pa wersi fydd Wilkinson wedi eu dysgu o'r ymgyrch? Sut all Cymru gynnig fwy o fygythiad ymosodol? Pwy sydd heb wneud digon i ennill lle yn y garfan? Fydd Sophie Ingle yn rhedeg allan o amser er mwyn profi ei ffitrwydd? Mae hi'n gyfnod prysur i'r dynion hefyd gyda dwy gêm yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd. Buddugoliaeth swmpus yw'r disgwyliad yn erbyn Liechtenstein. Fydd 'na noson "hanesyddol" i ddilyn yng Ngwlad Belg..?
Programme Website