Episode details

Available for over a year
Mae yna siom a thristwch yn Llanbed wrth i unig siop llyfrau Cymraeg y dref gau ddiwedd mis Mehefin. Mae Siop y Smotyn Du wedi bod ar agor ers chwarter canrif wedi iddi gael ei sefydlu gan Gymdeithas Undodaidd Deheudir Cymru o dan arweinyddiaeth y diweddar Barchedig Goronwy Evans. Yn 2010 fe roddodd y gymdeithas orau i'r fenter ac ers 15 mlynedd mae'r siop wedi bod yn cael ei rhedeg gan Gapel Undodaidd Brondeifi. Mae Eryl Jones yn ysgrifennydd a threfnydd rota y gwirfoddolwyr ac iddi hi mae cau'r siop yn ddiwedd cyfnod ac yn achlysur hynod o drist.
Programme Website