Episode details

Available for over a year
Y gyflwynwraig Mari Grug sy’n sgwrsio gyda Shân Cothi am ei hatgofion cyntaf: ei chartref cyntaf ym Mhenyrallt, lle’r oedd hi’n gwneud ‘dens’ ac yn mynd i grwydro; ei thad yn mynd i weithio ar y fferm; arogl cinio dydd Sul ei fam, sef brenhines y gravy; ei llwyfan cyntaf, sef gwasanaeth yng Nghapel Bethel; ei swydd gyntaf yng Nghaffi Beca yn Efailwen; ei swydd ‘go iawn’ gyntaf yn cyflwyno ar Blaned Plant; gwrando ar y gan ‘Come on Eileen’ ar ei ‘Walkman’ drosodd a throsodd. Hefyd, trafod ei phodlediad ‘1 Mewn 2’, sy’n trafod clefyd sy’n effeithio 1 mewn 2 ohonom, sef canser, a’i lyfr newydd ‘Dal i Fod yn Fi’. Darlledwyd yn wreiddiol ar raglen Bore Cothi, ÃÛÑ¿´«Ã½ Radio Cymru, fis Hydref 2025.
Programme Website