Episode details

Available for over a year
Hanes Olive ac Yvonne, dwy ffrind sydd wedi dod yn wynebau cyfarwydd ar Instagram a Facebook wrth hysbysebu eu siop, Pethau Olyv yn San Cler. Maen nhw ymhlith yr hyn mae rhai arbenigwyr yn ei alw'n dwf yn nifer y dylanwadwyr hyn. Am flynyddoedd roedd y nyrsys seiciatryddol Olive Bowen ac Yvonne Griffiths-Rogers yn gofalu am iechyd meddwl pobl yn eu cymuned. Ddegawd ers ymddeol maen nhw'n dal i wneud hynny gyda'u siop ddillad sy'n 'hwb cymunedol' a'u fideos hwyliog sy'n codi gwên i'r miloedd sy'n eu dilyn ar y gwefannau cymdeithasol.
Programme Website