Episode details

Available for over a year
Y gantores a'r delynores Gwenan Gibbard sy’n sgwrsio gyda Shân Cothi am ei hatgofion cyntaf: Tripiau i lawr i’r de i weld teulu; parti pen-blwydd priodas aur ei mam-gu a’i thad-cu yn Neuadd Goffa Bancffosfelen; y mwynhad o fod ar y llwyfan yn canu gyda’i theulu; arogl cinio dydd Sul ei mam-gu ar hen AGA; chwarae tu allan wrth y goedwig a’r arogl cryf o arlleg gwyllt; y siom yn ei hun ar ôl llosgi ei bys ar stôf boeth; gwirioni wrth wylio Mona Meirion yn chwarae’r delyn mewn rhagbrofion Cerdd Dant, a gwylio gosodiadau parti Cerdd Dant ei mam. Darlledwyd yn wreiddiol ar raglen Bore Cothi, ÃÛÑ¿´«Ã½ Radio Cymru, fis Tachwedd 2025.
Programme Website