ÃÛÑ¿´«Ã½

Adroddiad Blynddol y ÃÛÑ¿´«Ã½: ÃÛÑ¿´«Ã½ Yng Nghymru Yn Dod I'r Brig O Ran Ansawdd A Chynnwys Unigryw

Date: 12.07.2016     Last updated: 12.07.2016 at 11.40

Mae cynulleidfaoedd yng Nghymru wedi rhoi sgôr uwch i ansawdd a chynnwys unigryw y ÃÛÑ¿´«Ã½ nag unrhyw gynulleidfa yng ngwledydd eraill y DU, yn ôl ffigurau a gyhoeddwyd gydag Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon y ÃÛÑ¿´«Ã½ heddiw. 

Mae’r Adroddiad Blynyddol a’r Cyfrifon wedi cael eu cyhoeddi ynghyd â’r ymchwil cynulleidfa ddiweddaraf a’r Adolygiad Blynyddol o Gyngor Cynulleidfa Cymru y ÃÛÑ¿´«Ã½, sef y corff sy’n cynghori Ymddiriedolaeth y ÃÛÑ¿´«Ã½. 

Mae pedwar o bob pum person yng Nghymru yn cytuno bod y ÃÛÑ¿´«Ã½ yn sicrhau ansawdd, ac mae bron i ddwy ran o dair yn cytuno bod y ÃÛÑ¿´«Ã½ yn darparu cynnwys unigryw. Mae bron i ddwy ran o dair hefyd yn cytuno bod y ÃÛÑ¿´«Ã½ yn sicrhau gwerth am arian, y sgôr uchaf ers 2009. 

Cafwyd llwyddiannau sylweddol ar-lein, a thwf sylweddol yn y defnydd o ÃÛÑ¿´«Ã½ iPlayer yng Nghymru; mae presenoldeb S4C ar iPlayer yn mynd o nerth i nerth, ac yn denu 120,000 o geisiadau bob wythnos; ac mae dros 45,000 o ddefnyddwyr gwahanol yn ymweld â Cymru Fyw, gwasanaeth Cymraeg ar-lein a symudol newydd y ÃÛÑ¿´«Ã½, bob wythnos. 

Cafwyd llwyddiannau amlwg o ran rhaglenni yng Nghymru ar gyfer cynulleidfaoedd yng Nghymru, ac o ran cyfraniad ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru at wasanaethau’r ÃÛÑ¿´«Ã½ ar draws y DU, lle’r oedd yn dal i berfformio’n well nag y dylai – roedd hyn yn cynnwys cyfres newydd o’r ddrama drosedd Y Gwyll, cyfres ddogfen onest o’r enw Young, Welsh and Pretty Skint, y rhaglen ddogfen Life After April sydd wedi ennill gwobrau, a Welsh Heartland am frwydr Pen LlÅ·n i gadw’i hunaniaeth. Bu cynhyrchiad ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru o War and Peace yn llwyddiant ar draws y DU a ledled y byd, llwyddodd rhaglen arbennig o Sherlock i ddenu 11.6 miliwn o wylwyr ar Ddydd Calan, ac mae Casualty, Doctor Who, Crimewatch a Coast yn dal yn llwyddiannus.  Mae rhaglenni ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru Wales sy’n benodol i Gymru ar ÃÛÑ¿´«Ã½ One a ÃÛÑ¿´«Ã½ Two yn cyrraedd un o bob tri oedolyn yng Nghymru bob wythnos.

Fodd bynnag mae Cyngor Cynulleidfa Cymru y ÃÛÑ¿´«Ã½, sef y corff sy’n cynghori Ymddiriedolaeth y ÃÛÑ¿´«Ã½, wedi mynegi pryderon am lefel y portread o Gymru gyfoes ar wasanaethau teledu a radio’r ÃÛÑ¿´«Ã½ ar draws y DU – yn enwedig ym meysydd drama a chomedi – a’r angen i wneud mwy o raglenni teledu Saesneg yng Nghymru ar gyfer Cymru.

Dywedodd Elan Closs Stephens, Ymddiriedolwr y ÃÛÑ¿´«Ã½ dros Gymru:

"Mae ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru Wales yn dal i wneud cyfraniad aruthrol at wasanaethau’r ÃÛÑ¿´«Ã½ ar draws y DU, ac wedi profi dro ar ôl tro ei fod yn ganolfan o ansawdd ar gyfer cynyrchiadau teledu ym Mhrydain.  Er hynny, mae neges y gynulleidfa yn glir iawn – maent eisiau i’r ÃÛÑ¿´«Ã½ wneud mwy i adlewyrchu Cymru fodern a bywydau pobl yng Nghymru. Ac wrth i ni agosáu at ddiwedd y Siarter bresennol ac edrych ymlaen at ÃÛÑ¿´«Ã½ y degawd nesaf, mae’n rhaid i’r ÃÛÑ¿´«Ã½ ymateb i’r her honno."

Mae gorsafoedd radio’r ÃÛÑ¿´«Ã½ hefyd wedi perfformio’n well yng Nghymru nag yn unrhyw un o wledydd eraill y DU eleni. Mae ÃÛÑ¿´«Ã½ Radio Wales a ÃÛÑ¿´«Ã½ Radio Cymru wedi cael blwyddyn lwyddiannus – gan gynnwys y darlledu helaeth o Gwpan Rygbi’r Byd 2015 – ond gwelodd y ddwy orsaf ostyngiad yn y cyfraddau cyrhaeddiad a rhannu dros y flwyddyn.  

Dros y flwyddyn diwethaf, cynhaliodd Cyngor Cynulleidfa Cymru 17 digwyddiad cyhoeddus ledled Cymru, yn casglu safbwyntiau’r cyhoedd am yr Adolygiad o Siarter y ÃÛÑ¿´«Ã½, am berfformiad ei wasanaethau ac am faterion eraill.  Hefyd, cynhaliodd Ymddiriedolaeth y ÃÛÑ¿´«Ã½ seminar yng Nghaerdydd fis Hydref fel rhan o’r ymgynghoriad cyhoeddus ar ddyfodol y ÃÛÑ¿´«Ã½ ar gyfer y Siarter nesaf.

Nodiadau i Olygyddion

  • Mae Adroddiad Blynyddol y ÃÛÑ¿´«Ã½ wedi cael ei gyhoeddi yn .  Eleni, am y tro cyntaf, bydd yr Adroddiad Blynyddol yn cael ei roi’n ffurfiol gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Senedd yr Alban a Chynulliad Gogledd Iwerddon yn ogystal â Senedd y DU.
  • Mae’r
  • Mae Cyngor Cynulleidfa Cymru yn rhoi cyngor i Ymddiriedolaeth y ÃÛÑ¿´«Ã½ am fuddiannau cynulleidfaoedd yng Nghymru.  Mae’n cyfrannu at benderfyniadau’r Ymddiriedolaeth am strategaethau lefel uchel a gwasanaethau’r ÃÛÑ¿´«Ã½, ac mae’n sôn am faterion newydd sy’n codi i gynulleidfaoedd lleol.  Mae’r Cyngor yn cynnwys gwirfoddolwyr o bob cwr o Gymru sy’n dod o wahanol gefndiroedd ac sydd â gwahanol brofiadau.   .