ÃÛÑ¿´«Ã½

Explore the ÃÛÑ¿´«Ã½
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

ÃÛÑ¿´«Ã½ ÃÛÑ¿´«Ã½page
ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru
ÃÛÑ¿´«Ã½ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

ÃÛÑ¿´«Ã½ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Gambo
Blaentir (Wheelgate Cottage) Hers Rhydlewis
Hydref 2006
E.White sydd yn adrodd hanes hen Hers Rhydlewis yng ngholofnau'r Gambo.
Sylwais fod cryn dipyn o sôn wedi bod am hanes hers Glynarthen yn nhudalennau'r Gambo dros y blynyddoedd diwethaf. Gwelais hanes yr hers am y tro cyntaf yn rhifyn Chwefror 1993 a oedd yn awgrymu fod diddordeb yn ei chael yn ôl i'r ardal. Yna yn rhifyn Mehefin 2005 gwelwyd yr hers yn ei gogoniant ar strydoedd Aberteifi ar Ddydd Sadwrn Barlys. A nawr yn rhifyn Gorffennaf eleni ceid sôn am ymweliad yr hers â phentref Glynarthen a'i hymddangosiad ar raglen Wedi 7 ar S4C. Gwahanol iawn fu hanes hers Rhydlewis a oedd yn gwasanaethu Capeli Hawen, Twrgwyn, Coedybryn, Salem, Bryngwenith ac Eglwys Troedyraur.

Nôl yn y saithdegau aeth y gŵr a minnau ar ymweliad i dde Lloegr i weld rhai o'i deulu ac ar y ffordd dalwyd ein sylw gan iet bur anghyffredin yn arwain at dŷ hyfryd. Yr oedd dwy ran i'r iet a'r ddwy yn cynnwys ffrâm sgwâr ac olwyn oddi mewn iddo. Wedi dychwelyd adref o'n taith, penderfynodd y gŵr y byddai'n ceisio efelychu'r model hwn.

Y cam nesaf oedd hysbyebu yn y Teifiseid am ddwy olwyn o faint addas. Er syndod cafwyd ateb ar unwaith i ddweud fod olwynion ar gael ar fferm yn Rhydlewis. Yno yn ein disgwyl yr oedd nid yn unig olwynion ond hers gyfan, mewn cyflwr truenus iawn. Nid oedd fawr o obaith i achub yr hers yn ei chyfanrwydd, ond prynwyd y pedair olwyn, y ddwy ffrynt yn llai o faint na'r cefn. Defnyddiwyd y ddwy fwyaf yn llwyddiannus i lunio iet drawiadol iawn er mwyn addurno bwthyn Blaentir ar riw Gogerddan.

Cafwyd un canlyniad anffodus serch hynny, pan aeth y bwthyn i ddwylo perchnogion di-Gymraeg a ysbrydolwyd i ail-enwi'r tŷ yn "Wheelgate Cottage" ar ôl yr iet. Ond tair blynedd yn ôl gwerthwyd y tŷ i Gymraes a benderfynodd adfer yr hen enw a fu'n sefyll am ddau gan mlynedd a dyna enw Blaentir i weld y tu allan unwaith eto. Y mae'r ddwy olwyn arall yn parhau yn ein meddiant ac mewn cyflwr da, yn well nag olwynion Blaentir, a oedd â'r pren yn pydru. Dyna'r cyfan sy'n weddill felly o'r hen hers a gludodd genedlaethau o bol Rhydlewis a'r cylch i'w gorffwysfan olaf.

Gan E.White


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
ÃÛÑ¿´«Ã½ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the ÃÛÑ¿´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý