ÃÛÑ¿´«Ã½

Explore the ÃÛÑ¿´«Ã½
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

ÃÛÑ¿´«Ã½ ÃÛÑ¿´«Ã½page
ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru
ÃÛÑ¿´«Ã½ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

ÃÛÑ¿´«Ã½ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Gambo
llun o'r llong 'Halifax' Llong mewn potel wedi ei ddarganfod
Ionawr 2008
Dyma fi wedi dod o hyd i rywbeth diddorol iawn. Mewn siop elusen ym Mhenarth y tro 'ma, am ddwy bunt.
Llong mewn potel. Er o wneuthuriad cyfoes a chain, dyma a oedd wedi ei ysgrifennu o dani (yn Saesneg):

'RESOLVEN'. Y Marie Celeste Gymreig. Brig a adeiladwyd yn 1872. Darganfuwyd yn hwylio a neb ar ei bwrdd ym Mae Trinity, Newfoundland a'i hwyliau wedi eu gosod a thân yn y gali, ond un cwch yn eisiau. Ni welwyd y Capt J. Jones, Ceinewydd na'i griw byth wedyn. Suddodd yn 1888.'

gwrando Ian Ap Dewi yn trafod y llong ar raglen Hywel a Nia

Ond beth yw'r hanes go iawn? Llong 143 tunnell oedd y Resolven. Roedd ar ei ffordd o Harbour Grace, Newfoundland ar ôl dadlwytho halen o Sbaen i Snug Harbour, ymhellach i fyny arfordir Labrador, i godi llwyth o benwaig ar gyfer y farchnad yn Ewrop. Ond rhwng y ddau borthladd dyma hi'n cael ei darganfod yn wag ym Mae Trinity gydag ond ychydig ddifrod i'r hwyliau, dau ddiwrnod yn unig ar ôl gadael Grace. Ond beth oedd wedi digwydd yn y cyfamser? Erbyn heddiw, y gred yw fod pawb wedi gadael y llong mewn argyfwng oherwydd bygythiad mynydd ia (eisberg). Fe'i darganfuwyd hi gan long arall, Y Mulland, ac roedd capten y llong honno wedi gweld mynydd ia yn y cyffiniau y diwrnod cynt. Ond a oes yna esboniad arall?

Fe hwyliodd y Resolven eto ar ôl hyn, ond cafodd ei dryllio ar 27 Gorffennaf 1888, a dyna ddiwedd y llong.

Pwy oedd y Capt. J Jones o Geinewydd? A oedd ganddo griw lleol o Gardis, fel oedd yn arferol y dyddiau hynny? Cwmni o'r Cei oedd yn berchen y llong, G. Griffiths a'i Gwmni, yn ôl rhai, ac roedd hon yn un o nifer o longau a oedd yn gweithio allan o Newfoundland lle cafodd ei adeiladu, ac o dan berchnogaeth Gymreig. Yr awgrym yw nad oedd gan y Capten Jones lawer o brofiad chwaith, ac yn sicr dim profiad o fynyddoedd iâ, efallai. Felly, faint oedd ei oed? Beth oedd adwaith y cwmni?

A oes rhywun o Geinewydd neu sydd â chysylltiadau a all roi rhagor o wybodaeth? Ysgrifennwch i'r Gambo.

(Diolch am wybodaeth gan J. Geraint Jenkins yn 'Maritime Heritage' a chan Susan Cambell-Jones yn 'Welsh Sail').

stori gan Ian Ap Dewi


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Peidiwch â datgelu eich cyfenw os ydych o dan 16 oed.
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r ÃÛÑ¿´«Ã½ yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
ÃÛÑ¿´«Ã½ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the ÃÛÑ¿´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý