Mae'n draddodiad gyda ni'r myfyrwyr yn Aberystwyth i fynd ar 'drip rygbi' bob blwyddyn yn ystod pencampwriaeth y chwe gwlad i un o'r dinasoedd lle mae Cymru yn chwarae. Mae rhai yn defnyddio'r penwythnos i ffwrdd fel cyfle i weld rhai o ddinasoedd hyfrtaf Ewrop, rhai eraill am y rygbi ei hunan, a rhai eraill yn ei ddefnyddio i flasu cymaint o gwrw gwahanol a sy'n bosib mewn penwythnos... Ond beth bynnag yw'r rheswm, ma' nhw wastad yn benwythnosau i'w cofio (neu i'w anghofio i rai!)
Eira
Eleni, aeth 200 ohonom sy'n aelodau o Gymdeithas y Geltaidd yn Aberystwyth am dair noson i Gaeredin, ar gyfer gêm Cymru yn erbyn yr Alban. Yn nodweddiadol o dripiau ganddon ni fel myfyrwyr, roedd Cymru dan flanced o eira - ac eira yn Aberystwyth hyd yn oed - y diwrnod cyn i ni fynd. Ni'n dechre meddwl mai ffordd y dynion tywydd o stopio ni i fynd i lefydd yw rhoi eira yng Nghymru - ma 'na eira wedi bod yn ystod yr Eisteddfod Ryng-Gol dros y dair mlynedd ddiwethaf, ac yn ystod ein trip rygbi i Baris ddwy flynedd yn ôl. Cyd-ddigwyddiad?!
Ond, diolch byth, roedd yr eira wedi clirio erbyn i ni adael am 8 bore Gwener, a'r hewlydd yn ddigon clir i ni deithio arnyn nhw. Mae'n debyg i ni adael ar yr amser cywir, achos yn sydyn iawn ar ôl i ni adael dyma'r eira yn cwympo'n drwch yn Aber!
Ar ôl deg awr ar y bws, dyma gyrraedd Caeredin, a darganfod bod ein hostel ni yn union gyferbyn â thafarn y 'Three Sisters' lle roedden ni wedi clywed o flaen llaw ei fod yn lle da i fynd i wylio'r gêm. Dechrau da!
Profiad anhygoel
Mae Caeredin yn ddinas hyfryd, ac roedd cerdded trwy'r canol at Stadiwm Murreyfield ar y dydd Sadwrn gyda miloedd o gefnogwyr eraill o Gymru ac o'r Alban, yn brofiad anhygoel. Yr hyn oedd yn wych oedd bod y rhan fwyaf o'r cefnogwyr yn gwisgo baner Cymru ac un yr Alban, doedd dim drwg deimlad rhwng y ddwy wlad. Mae Murreyfield yn stadiwm hyfryd ac roedd yr awyrgylch ar ddechrau'r gêm yn drydanol, a'r 20,000 o Gymry oedd yno yn canu'r anthem gydag arddeliad - yn enwedig gan ein bod ni'n chwarae i ffwrdd. Ond am gêm ofnadwy! Erbyn y diwedd roedden ni'r Cymry wedi diflasu yn llwyr a dechreuodd nifer fawr o bobl adael y stadiwm. Doedd cerdded yn ôl ar ôl y gêm ddim yn brofiad mor bleserus...
Er gwaetha'r canlyniad trychinebus, roedd y ddinas yn fwrlwm o gefnogwyr Cymru a'r Alban a ardal Grass Market yn llawn dop. Mae cwpwl o ffrindiau ysgol gen i yn y Brifysgol yng Nghaeredin ac aeth pump ohonyn ni gyda nhw i ceilidh sydd yn debyg i dwmpath dawns yn Undeb y Brifysgol. Roedd band byw yn chwarae, ac er yn debyg i dwmpath roedd y dawnsio yn llawer mwy egnïol a lot mwy o droelli gwyllt! Yna er mwyn cario ymlaen gyda'r dawnsio dyma mynd i glwb nos cyfagos a dyna lle mae'r cof yn dechrau pylu...
Treuliom ddydd Sul yn cerdded y ddinas ar ôl cael brecwast mawr yna gwylio gêm Ffrainc yn erbyn Iwerddon oedd yn llawer mwy diddorol 'na gêm dydd Sadwrn! Noson (weddol) gynnar nos Sul yna dechrau yn ôl tuag at Gymru fach am saith bore Llun, a phawb yn llwyddo i ddal y bws - hwre! (Gadawom un aelod colledig ar ôl ym Mharis ddwy flynedd yn ôl... anffodus.) Penwythnos wych, lot o hwyl a sbri er gwaethaf y rygbi. Awe i Ddulyn flwyddyn nesa'!
Lowri Johnston
Cyhoeddwyd yr erthygl hon fel rhan o gynllun cyfrannu ar y cyd rhwng ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008.
 |