ÃÛÑ¿´«Ã½

Explore the ÃÛÑ¿´«Ã½
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Bangor

ÃÛÑ¿´«Ã½ ÃÛÑ¿´«Ã½page
ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru
ÃÛÑ¿´«Ã½ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

ÃÛÑ¿´«Ã½ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Bangor
Trip UMCB i Gaeredin
Chwefror 2007
"Yn flynyddol, wrth i Chwefror ddynesu, cynydda'r cynnwrf ym myfyrwyr cymdeithasau Cymraeg Prifysgolion Cymru am y daith fawr ... y daith rygbi!" gan Lowri Evans
Criw yn mwynhau
Mwynhau er gwaethaf perfformiad gwael y tîm next page
1Ìý 2Ìý

"Caeredin oedd pen y daith eleni, a bore dydd Gwener, y 9fed o Chwefror, roedd injans y bysiau yn prysur boethi yn barod i gludo cant a hanner o ffyliaid Bangor i fyny am yr Alban.

Roedd hi'n daith hir a diflas, ond gyda chymorth ambell i gan o Fosters a chân gan fechgyn soniarus yr ail flwyddyn, trodd saith awr yn gyffro pur.

Ond mae'n siŵr mai'r ffrae rhyngom ni'r blaenoriaid a'r tom-tom yw fy atgof gorau am y daith gyfan, a hynny wrth i'r hyllbeth electronig golli signal yng nghanol dinas Caeredin a gorfodi i mi, fel rhyw Anneka Rice meddw, i fynd allan i ofyn am gyfarwyddiadau!

Doeddwn erioed wedi meddwl y byddai gwneud three point turn mewn bws yn gymaint o sbri! Ond, ar ôl hanner awr o ddadlau, fe ddeffrodd yr hen dom-tom a'n arwain at yr hostel.

Cawsom noson a hanner ar Rose Street nos Wener yn cyfarfod â hen wynebau dros beint neu ddau. Rhyfedd sut mae pobl yn tyrru i wlad arall i dreulio amser â ffrindiau eu milltir sgwâr!

Fe ddaeth bore Sadwrn yn llawer rhy gloi, ac ar ôl llowcio pecyn o Pro Plus a gwisgo'n gynnes roeddem yn barod i wynebu'r hen ddinas unwaith eto.

Bûm yn ffodus i brynu tocynnau cyn mynd i fyny, felly tyrrom tua'r stadiwm mewn da bryd.

Yn anffodus, roedd y ddau bâr o sanau yr oeddwn wedi eu gwisgo yn bell o fod yn ddigon i gynhesu traed cefnogwr mewn gêm mor ddigyfeiriad a di-fflach.

Gyda chaniad y chwiban olaf, daeth gwên fwya'r gêm i gefnogwyr Cymru a diflannom o'r stadiwm cyn yr embaras o orfod wynebu'r ciltiau balch.

Roedd y daith hir yn ôl i'r dre yn siawns i deimlo bysau ein traed unwaith yn rhagor a pharatoi ar gyfer y noson o'n blaenau, a chwythodd y sgôr terfynol o'n cof gyda'r awel fain.

Roedd y si ar led ar hyd y stryd fawr fod y Cymry yn tyrru i Grass Market felly mentrom gyda'r lli. Roedd y lle yn llawn o grysau du'r gym-gym a chrysau coch Cymru, a'r unig beth oedd i'n hatgoffa nad yn Walkabout ein prifddinas ein hunain yr oeddem oedd glesni crysau'r Glôb ac ambell i Albanwr dewr a fentrodd allan mewn cilt.

Llwyddodd dau ohonom i wrthsefyll y dynfa i aros gyda'r Cymry meddw, dim ond i ymuno â chriw o Gymry meddwach, a hynny yn y gig a drefnwyd ar ein cyfer.

Yn anffodus, roedd Daniel Lloyd wedi gorffen erbyn i ni gyrraedd, ond megis dechrau oedd Frizbee, felly yno y bûm am weddill y noson yn neidio fel ffyliaid i'w halawon bachog a'u curiadau cyson.

Wrth ddeffro bore Sul, fyddem wedi rhoi unrhyw beth i gael gwasgu botwm i'm tywys yn ôl i Fangor mewn fflach. Ond, gan nad yw'r fath beiriant yn bodoli eto yn anffodus, bu'n rhaid i ni oddef â llais diflas tom-tom am bron i wyth awr cyn dynesu at olau croesawgar Bangor Ucha'.

Yn bendant, bu'n benwythnos i'w gofio, ond saif y cwestiwn ... pam ein bod yn mynnu tyrru i ran arall o Brydain yn flynyddol er mwyn treulio mwy amser yn teithio ac yn cysgu nac yn blasu danteithion pen y daith?"

Lowri Evans, Prifysgol Cymru, Bangor

Cyhoeddwyd yr erthygl hon fel rhan o gynllun cyfrannu ar y cyd rhwng ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008.



Lleol i Mi
Radio Cymru
Llyfrau


About the ÃÛÑ¿´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý