ÃÛÑ¿´«Ã½

Explore the ÃÛÑ¿´«Ã½
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Cwpan y Byd 2006

ÃÛÑ¿´«Ã½ ÃÛÑ¿´«Ã½page
ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru

»

Chwaraeon

±Êê±ô-»å°ù´Ç±ð»å
Abertawe
Caerdydd
Casnewydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
±Êê±ô-»å°ù´Ç±ð»å Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

ÃÛÑ¿´«Ã½ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Newidiwyd diwethaf: 31 Mawrth 2006
Angola
Popeth fydd angen i chi wybod am Angola ar gyfer Cwpan y Byd 2006


Gemau Grŵp D:

v Portiwgal
11 Mehefin 2000 BST, Cologne

v Mecsico
16 Mehefin 2000 BST, Hanover

v Iran
21 Mehefin 1500 BST, Leipzig



Bydd Angola yn edrych ymlaen yn arw at y gêm yn erbyn eu cyn feistri trefedigaethol, Portiwgal, yn enwedig o gofio mai dyma fydd eu gêm gyntaf erioed ar brif lwyfan pêl-droed y byd.

A bydd y Palancas Negras (yr Impalod Duon) yn awyddus i anghofio'r ddwy gêm blaenorol rhwng y ddwy wlad.

Llwyddodd Portiwgal i'w chwalu 6-0 yn Lisbon ym 1989.

Ac yn 2001 bu rhaid i'r dyfarnwr ddod â'r gêm i ben yn gynnar wedi Angola, oedd yn colli 5-1 ar y pryd, weld pedwar chwaraewr yn derbyn y cerdyn coch!

Hanes yng Nghwpan y Byd:
Dyma'r tro cyntaf erioed i Angola gyrraedd y rowndiau terfynol.

Ni chymrodd y wlad unrhyw ran yng ngemau rhagbrofol Affrica ar gyfer Cwpan y Byd tan pencampwriaeth 1986.

A synnwyd y byd pêl-droed wrth iddynt sicrhau eu lle yn Yr Almaen gan drechu Nigeria a Zimbabwe yn eu grŵp.

Sêr y tîm:
Yr ymosodwr a'r capten, Akwa, sydd â'r record am y nifer fwyaf o gapiau dros ei wlad. Akwa rwydodd y gôl holl bwysig yn erbyn Rwanda sicrhaodd le Angola yn Yr Almaen.

Wedi treulio cyfnod â Benfica tra'n ei arddegau, symudodd i Qatar lle mae'n parhau i ennill ei gyflog â chlwb Al Wakra.

Mae ymosodwr Benfica, Mantorras, wrthododd gynnig i ymuno ag Internazionale tra'n ei arddegau, wedi ei gymharu â phrif seren Affrica Portiwgeaidd, Eusebio.

Wedi gwella o anaf drwg i'w ben-glin, mae gobaith mawr bydd Mantorras, 24, yn disgleirio yn Yr Almaen.

Barn ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru'r Byd:
Mae Angola wedi gwneud yn dda iawn i gyrraedd Yr Almaen ond roedd eu perfformiadau siomedig yng Nghwpan Gwledydd Affrica yn arwyddocaol.

Mae'n debyg bydd y cam i fyny i'r lefel yma o bêl-droed yn ormod i'r tîm a'r gêm yn erbyn Portiwgal bydd uchafbwynt eu twrnament.

Ìý


chwaraeon
Hanes y Gwpan
Ìý
Y Timau
Ìý


About the ÃÛÑ¿´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý