> adroddiad y gêm
Sgôr Terfynol Yr Ariannin 2-1 Cote d'Ivoire
85 mun: Llwyddodd Maxi Rodriguez i roi'r bêl yn y rhwyd ond yn ffodus i Cote d'Ivoire, roedd ymosodwr Atletico Madrid yn camsefyll.
81 mun: Gôl Ariannin 2-1 Cote d'Ivoire
Mae Les Elephants yn cael eu haeddiant a llygedyn o obaith wrth i Didier Drogba droi'n gelfydd a tharo ergyd â'i droed chwith i gefn y rhwyd.
78 mun: Mae Cote d'Ivoire yn pwyso am gôl i ddod yn ôl i'r gêm ond maent yn gorfod bodloni ar ergydio o bell ar hyn o bryd.
69 mun: Brwydrodd Didier Drogba yn ddewr a chryf yn y cwrt cosbi gan godi ar ei draed wedi iddo cael ei lorio ond methodd Les Elephants â chanfod y targed ag wergyd gan Bakary Kone.
58 mun: Methodd Didier Drogba â chysylltu â chroesiad Aruna Dindane er i ymosodwr Chelsea ganfod ei hun yn y cwrt bach.
54 mun: Cic rhydd Juan Riquelme yn hedfan dros ben pawb ac allan am gic gôl.
Hanner Amser Yr Ariannin 2-0 Cote d'Ivoire
43 mun: Mae Cote d'Ivoire yn parhau i ymosod er iddynt ildio'r ail gôl, ac mewn grŵp mor dyn â grŵp C, fe all gwahaniaeth goliau fod yn holl bwysig.
37 mun: Gôl - Yr Ariannin 2-0 Cote d'Ivoire
Llwyddodd Javier Saviola i amseru ei rediad yn berffaith cyn ergydio o dan gorff Jean-JacquesTizie o bas gelfydd Juan Riquelme.
34 mun: Dihangfa arall i'r Archentwyr wrth i Kader Keita benio'n syth i ddwylo Roberto Abbondanzieri o bum llath.
31mun: Roedd angen tacl wych gan Roberto Ayala ar Didier Drogba yn y cwrt chwech wedi ymosodwr Chelsea dderbyn pas gelfydd Bonaventure Kalou
24 mun: Gôl - Yr Ariannin 1-0 Cote d'Ivoire
Methodd Cote d'Ivoire â chlirfio cic rhydd Juan Riquelme o'r ochr chwith ac Hernan Crespo oedd yno i fanteisio gan roi'r Archentwyr ar y blaen.
19 mun: Daeth rhediad arall o ganol cae gan Cote d'Ivoire wrth i Didier Zokora frwydro drwodd ac ennill cic gornel.
14 mun: Dihangfa i Cote d'Ivoire wedi'r golwr Jean-Jacques Tizie fethu ymdopi'n syth â pheniad Roberto Ayala. Ymddengys fod Tizie wedi gwthio'r bêl yn erbyn y postyn a dros y llinell cyn iddo ei ddal, ond parhaodd y chwarae tra bo'r Archentwyr yn cwyno i'r dyfarnwr.
5 mun: Cafwyd rhediad grymus tu hwnt gan Kanga Akale wrth i'r chwaraewr canol cae ddawnsio hebio sawl chwaraewr cyn ergydio.
NEWYDDION
Javier Saviola fydd yn chwarae ochr yn ochr â Hernan Crespo yn y llinell flaen i'r Ariannin yn eu gêm agoriadol yng Ngrŵp .
Ni fydd chwaraewr ifanc talentog Barcelona, Lionel Messi, anafodd ei goes tra'n chwarae yn erbyn Chelsea yng Nghynghrair y Pencampwyr ym mis Mawrth, yn cychwyn y gêm ond mae'n debygol o fod ar y fainc.
TIMAU
Ariannin: Abbondanzieri, Burdisso, Ayala, Heinze, Sorin, Maxi,
Mascherano, Cambiasso, Riquelme, Saviola, Crespo. Eilyddion: Aimar,
Coloccini, Cruz, Cufre, Franco, Gonzalez, Messi, Milito,
Palacio, Scaloni, Tevez, Ustari.
Cote d'Ivoire: Tizie, Eboue, Kolo Toure, Meite, Boka, Akale,
Zokora, Kalou, Keita, Gneri Yaya Toure, Drogba.
Eilyddion: Barry,
Demel, Dindane, Domoraud, Fae, Gnanhouan, Arouna Kone,
Bakari Kone, Kouassi, Romaric, Yapi Yapo, Zoro.
Dyfarnwr: Frank De Bleeckere (Gwlad Belg)