ÃÛÑ¿´«Ã½

Explore the ÃÛÑ¿´«Ã½
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Chwaraeon

ÃÛÑ¿´«Ã½ ÃÛÑ¿´«Ã½page
ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru

»

Chwaraeon

±Êê±ô-»å°ù´Ç±ð»å
Abertawe
Caerdydd
Casnewydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
±Êê±ô-»å°ù´Ç±ð»å Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

ÃÛÑ¿´«Ã½ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Diweddarwyd: 08 Mawrth 2011

Non yn poeni am ei breuddwyd Olympaidd

Mae Non Evans yn ofni na fydd modd iddi gynrychioli Prydain yn y Gemau Olympaidd yn Llundain y flwyddyn nesaf oherwydd anaf.

Non Evans
Dioddefodd cyn chwaraewr rygbi tîm merched Cymru anaf difrifol i'w llinyn gar wrth gystadlu ym Mhencampwriaeth Reslo Agored Prydain fis diwethaf.

Ac mae Evans bellach yn derbyn bod hi'n wynebu ras i brofi ei ffitrwydd a sicrhau lle yn y tîm reslo ar gyfer Llundain 2012.

"'Dwi wedi cael llawdriniaeth i roi'r llinyn y gar yn ôl ar y pelfis ac mae'n gwella," meddai Evans.

"Ond y broblem yw mae'n mynd i gymryd sbel iddo ddod yn ôl yn normal.

"Hyd yn oed os 'dwi'n teimlo iawn mi fyddwn yn methu reslo neu redeg yn gyflym achos fe alle fe ddod bant o'r asgwrn eto.

"Ond mae pobl wedi dod yn ôl o hwn. Mae lot o chwaraewyr rygbi wedi cael yr un llawdriniaeth a fi ac roedden nhw'n ôl yn chwarae mewn rhyw bump i chwe mis,.

"Ond y broblem yw os ydw i eisiau ennill lle yn nhîm Prydain ar gyfer y Gemau Olympaidd mae 'na lot o gystadlaethau dros y misoedd nesaf.

"Mi fyddwn yn ffaeli cystadlu yn y rheini gwaetha'r modd."

Dechreuodd Evans ar yrfa newydd yn reslo ychydig dros flwyddyn yn ôl, gan sicrhau lle yn nhîm Cymru ar gyfer Gemau'r Gymanwlad.

Serch hynny ni lwyddodd i sicrhau medal yng nghategori'r 55kg dull rhydd yn Delhi.

Ar ôl ennill 87 o gapiau i dîm rygbi merched Cymru, fe adawodd Evans y llwyfan rhyngwladol wedi Cwpan y Byd y llynedd.


chwaraeon



About the ÃÛÑ¿´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý