ÃÛÑ¿´«Ã½

Explore the ÃÛÑ¿´«Ã½
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Gemau'r Gymanwlad

ÃÛÑ¿´«Ã½ ÃÛÑ¿´«Ã½page
ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru

»

Chwaraeon

±Êê±ô-»å°ù´Ç±ð»å
Abertawe
Caerdydd
Casnewydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
±Êê±ô-»å°ù´Ç±ð»å Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

ÃÛÑ¿´«Ã½ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Newidiwyd diwethaf: 22 Mawrth 2006
Melbourne: Dydd 6

Llwyddodd David Davies i gipio'r fedal aur yn y 1500m dull rhydd a sicrhau medal aur cyntaf Cymru yn y pwll nofio ers Pat Bevan ym 1974.

Gorffennodd y Cymro o'r Barri mewn amser o 14mun 57.63eil, dros 12 eiliad ar y blaen i Andrew Hurd o Ganada gasglodd yr arian.

> Aur i Davies yn y pwll

A roedd llwyddiant i unig aelod o dîm gymnasteg dynion Cymru wrth i David Eaton ennill medal arian yn rownd derfynol y bar llorweddol.

> Eaton yn creu hanes

Bu rhaid i Hayley Tullett fodloni ar y fedal efydd yn y 1500m i ferched wedi Lisa Dobriskey o Loegr synnu pawb a chipio'r fedal aur gyda Sarah Jamieson o Awstralia'n casglu'r arian.

> Tullett yn drydydd


MANYLION GEMAU'R GYMANWLAD

> Tabl y medalau

> Canlyniadau Llun 21 Mawrth


ATHLETAU

Llwyddodd Rhys Williams a Matt Elias i sicrhau eu llefydd yn rowndiau gynderfynol y 400 dros y clwydi.

Cafodd Williams ei amser gorau erioed wrth ennill ei ras rhagbrofol mewn 49.52eil, dim ond Alwyn Myburgh o Dde Affrica redodd yn gyflymach na'r Cymro ifanc yn y rowndiau agoriadol.

Ond roedd siom i'r gwibiwr Christian Malcolm wedi iddo gadarnhau ei fod yn gorfod tynnu yn ôl o'r 200m oherwydd anaf i linyn ei âr.

> Malcolm allan o'r Gemau

BADMINTON

Roedd yn ddiwrnod cymysglyd i dîm badminton Cymru.

Llwyddodd Neil Morgan i gamu ymlaen yn senglau'r dynion ond colli oedd hanes Richard Vaughan, Matthew Hughes a Martyn Lewis.

Ond cafodd Matthew Hughes a Martyn Lewis lwyddiant yn nyblau'r dynion wrth iddynt drechu pâr o Trinidad a llwyddodd Jonathan Morgan a James Phillips i drechu pâr o Jamaica.

Ac yn senglau'r merched, llwyddodd pencampwraig Gemau 1998, Kelly Morgan i drechu Renu Hettiarachchige o Sri Lanka yn y rownd agoriadol.

BOCSIO

Mae tri aelod o dîm bocsio Cymru wedi sicrhau medalau wrth gyrraedd rownd gynderfynol eu hadranau.

Y capten, Kevin Evans, arweiniodd y ffordd yn yr adran go-drwm (91kg+) â buddugoliaeth gyfforddus dros Haruna Osumanu o Ghana.

Yna llwyddodd Mohammed Nasir i drechu Muhammad Nisar o Bacistan yn yr adran is-bry (48kg).

Bydd y bachgen ifanc o Gasnewydd yn herio Darran John Langley o Loegr ddydd Iau am le yn y rownd derfynol.

A chwblhaodd Jamie Crees fore llwyddiannus iawn i dîm bocsio Cymru wrth iddo drechu Chukwudi Nwaiwu o Nigeria yn yr adran is-welter (64kg).

Bydd Crees yn herio James Simon Russan o Loegr yn y rownd gynderfynol.

TENIS BWRDD

Llwyddodd dynion Cymru i anghofio'r siom o fethu â chipio medal efydd yn nghystadleuaeth y timau wrth cael dechrau da yn y senglau.

> Siom i dîm tenis bwrdd Cymru

Cafwyd buddugoliaethau i Stephen Jenkins a Ryan Jenkins yn eu grwpiau rhagbrofol fore Mawrth.

Ac yng nghystadleuaeth senglau'r merched llwyddodd Bethan Daunton, Naomi Owen a Siwan Davies i ennill gemau agoriadol eu grwpiau.


chwaraeon
Hanes y Gemau
Ìý
Medalau Cymru
Ìý


About the ÃÛÑ¿´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý