ÃÛÑ¿´«Ã½

Explore the ÃÛÑ¿´«Ã½
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

ÃÛÑ¿´«Ã½ ÃÛÑ¿´«Ã½page
Cymru'r Byd

»

Archif Crefydd

Safle Newydd



ÃÛÑ¿´«Ã½ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Lleoedd
Hayley Thomas Hill yn edmygu'r cerflun newydd Abaty Tyndyrn
Cerflun newydd o Fair a'i Phlentyn
Mae cerflun o Fair a'r Baban Iesu yn Abaty Tyndyrn unwaith eto - yr Abaty sydd wedi cadw orau o holl abatai canoloesol Cymru.

Gosodwyd y cerflun newydd yn eglwys yr abaty fis Chwefror 2008.

Fe'i cerfiwyd gan Philip Chatfield a gomisiynwyd gan Gristnogion lleol, The Friends of our Lady of Tintern a ffurfiwyd i arolygu y gwaith y dechreuwyd arno yn Awst 2006.

Mair a'i PhlentynDim ond gweddillion
Gwnaed y cerflun o dywodfaen Fforest y Ddena ac mae'n ail gread o gerflun o'r drydedd ganrif ar ddeg nad oes ond ei weddillion ar ôl yn yr Abaty sydd erbyn heddiw dan ofal CADW.

Meddai Hayley Thomas Hill, ceidwad yr Abaty am y cerflun:

"Rydym ni gyd wrth ein boddau i weld cwblhad y prosiect.

"Mae'r cerflun yn arwyddocaol achos mae pob abaty Sisteraidd wedi ei gysegru i Fair a'i Phlentyn felly mae hwn yn gerflun gwerthfawr sy'n dal yma."

Sefydlwyd Abaty Tyndyrn gan fyneich Sisteraidd yn 1131 ac mae'n nodedig am ei bensaernïaeth goeth a godidog. Fe'i hailadeiladwyd yn helaeth ddiwedd y drydedd ganrif ar ddeg gan Roger Bigod, arglwydd Castell Cas-gwent sydd gerllaw.

Ynmweliad Wordsworth
Ymhlith yr enwogion y gwnaeth yr olion mawreddog argraff arnyn nhw yr oedd y bardd Saesneg William Wordsworth a ymwelodd â'r abaty gyda'i chwarae, Dorothy, yng Ngorffennaf 1798.

O Fryste, lle'r oedden nhw yn aros gyda chyfeillion, y teithiodd y ddau yno gan groesi Afon Hafren ar y fferi a cherdded wedyn i fyny Dyffryn Wysg gan dreulio dwy noson yn Nhyndyrn ond gan gerdded yn ôl i Gas-gwent rhwng y ddwy noson!

Dychwelodd y ddau wedyn i Fryste.

Yn dilyn yr ymweliad hwnnw y cyfansoddodd ei gerdd adnabyddus y bu cenedlaethau o blant ysgol yn ei hastudio, Lines Composed a Few Miles Above Tintern Abbey.

Pan ymwelodd y dyddiadurwr Francis Kilvert a'r Abasy dywedodd ei fod bron a bod yn "rhy berffaith" i fod yn ddarlun hyd yn oed!


Llusern
Hanes Crefydd yng Nghymru
Ebostiwch ni: crefydd@bbc.co.uk


About the ÃÛÑ¿´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý