Gwasanaethau symudol
Dyma'r hyn allwch ei gael trwy gyswllt y we ar eich ffôn symudol:
- Newyddion
- Tywydd
- Radio Cymru: amserlen rhaglenni heddiw
- Big Welsh Challenge: termau Cymraeg i ddysgwyr
- Erthyglau blogiau ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru (i ddod cyn hir)
Sut mae'n gweithio?
- Tecstiwch CYMRU i 81010. Bydd y ÃÛÑ¿´«Ã½ yn danfon neges destun yn ôl atoch chi gyda linc i bbc.co.uk/symudol. Bydd hwn yn ymddangos fel neges yn cynnwys linc, 'WAP push', neu 'service message inbox'.
- Agorwch y neges er mwyn mynd at y linc a llwytho'r tudalen. Byddwch chi'n cysylltu â'r we symudol ac yn cyrraedd gwefan symudol arbrofol ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru.
- Cofiwch ychwanegu nod tudalen ('bookmark') ar gyfer hafanddalen bbc.co.uk/symudol.
Er gwybodaeth
Mae cost pob neges destun rhwng 10c-15c yn dibynnu ar eich darparwr. Nid yw'r ÃÛÑ¿´«Ã½ yn codi tâl am gynnwys symudol ond fe fydd eich darparwr yn codi tâl. Fe all darparwyr godi am y cyfnod y byddwch yn edrych ar y we neu am y data a lawr lwythir. Cysylltwch â'ch darparwr er mwyn cael gwybodaeth am yr union gostau.
Ni all y ÃÛÑ¿´«Ã½ sicrhau y bydd y neges WAP hon yn gweithio ar eich ffôn chi. Hyd ag y mae'r gyfraith yn caniatau mae'r ÃÛÑ¿´«Ã½ yn ymwrthod ag unrhyw gyfrifoldeb am golled neu ddifrod.