ÃÛÑ¿´«Ã½

Explore the ÃÛÑ¿´«Ã½
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

ÃÛÑ¿´«Ã½ ÃÛÑ¿´«Ã½page
ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru
ÃÛÑ¿´«Ã½ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

ÃÛÑ¿´«Ã½ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Dinesydd
Côr Canna Côr Canna'n cipio'r aur - ddwywaith!
Mehefin 2007
Tasech chi wedi gyrru trwy Dreganna am 2 o'r gloch fore Mercher 11 Ebrill mi fyddech chi wedi gweld golygfa ddifyr iawn.

Dros ddeg ar hugain o ferched gyda chesys o bob lliw a llun yn disgwyl am fws i'w cludo i faes awyr Gatwick er mwyn hedfan i Å´yl Gorawl yn Verona, i gystadlu a mwynhau dros wyliau'r Pasg.

Cynhaliwyd y seremoni a'r gyngerdd agoriadol yn theatr grand hyfryd y Teatro Filannonico ynghanol Verona. Roedd 35 côr yn cystadlu eleni ac yn cynrychioli gwledydd mor amrywiol â Croatia, UDA, Iwerddon, yr Eidal, yr Almaen a Chymru wrth gwrs! Cawsom gyngerdd agoriadol gan Gymdeithas Gorawl Euridice o Bologna a'r Rockin Accordions o Leipzig.

Roedd hanner y corau yn cystadlu ddydd Iau Ebrill l2fed, tra roedd gweddill y corau yn perfformio ddydd Gwener. 11.30 fore Gwener oedd ein hamser cystadlu ni. Roedd gennym ni 20 munud i gyflwyno rhaglen - rhaid oedd cyflwyno rhaglen wrthgyferbyniol, gan gynnwys enghreifftiau o gerddoriaeth o wahanol gyfnodau, canu digyfeiliant ac mi roedd yna gyfle wrth gwrs i ganu mewn sawl iaith - mi roedd yna bedair iaith yn ein dewis raglen ni. Roedd trefn y gystadleuaeth yn reit od - dim cynulleidfa heblaw'r 7 beirniad, o'r Eidal, yr Almaen, Hwngari a'r Weriniaeth Siec.

Y noson honno, fe aethom am Villafranca, i gynnal cyngerdd gyda 4 côr arall - côr o feibion Alpinaidd o'r Eidal, grŵp gwerin o'r Eidal, côr o ferched o Croatia a chôr gospel o'r Unol Daleithiau. Fe gawsom ni dderbyniad da iawn, pawb di gwirioni, a'r arweinydd yn ein galw'n 'City Girls' ac yn sôn am John Charles.

Fore Sadwrn roedd yr holl gorau'n ymgynnull yn y theatr yn Verona ar gyfer y seremoni wobrwyo/gloi. Yr holl arweinyddion ar y llwyfan, neb yn gwybod beth oedd y dyfarniad. Pawb yn disgwyl yn eiddgar felly. Dosbarthwyd y cwpanau Efydd, yna'r cwpanau Arian. Dim sôn amdanom ni. Does bosib... Dechreuwyd dosbarthu'r cwpanau Aur. Parti Merched o Groatia, Côr Cymysg o Iwerddon, Côr Plant o Wlad Belg, Côr Prifysgol Halle, a CHÔR MERCHED CANNA!!!. Wel, sôn am weiddi! A chwpan aur drwm i'w chario nôl i Gymru.

Cafodd pob côr a enillodd yr aur gyfle i ganu yn y theatr grand gyda chynulleidfa o tua 1,500. Profiad bythgofiadwy. Yna, pawb yn gorymdeithio i'r Arena enwog yn Verona lle roedd yr holl gorau yn cyd-ganu "Va Pensiero" gan Verdi dan arweiniad un o'r beirniad, profiad arall i'w drysori.

Cafwyd hen ddathlu y noson honno ac roedden ni'n dal i ganu drannoeth pan gafwyd cais i ni aros ar yr awyren yn Gatwick er mwyn canu i'r peilot! Merched blinedig iawn a gyrhaeddodd nôl i Gaerdydd nos Sul. Ond merched hapus a bodlon iawn oedd wedi mwynhau eu hunain yn arw. Rhaid diolch yn fawr i Delyth am ei holl waith, i Kim y gyfeilyddes ac i Mari ac Enid a fu'n gwneud y trefniadau.

Chafodd y côr fawr o gyfle i orffwys ar ôl dychwelyd adre gan fod gofyn paratoi ar gyfer Gŵyl Gelfyddydau Perfformio Cheltenham ar 12 Mai. Roedden ni'n cystadlu mewn 3 cystadleuaeth - un i gorau o unrhyw gyfuniad o leisiau lle roedd gofyn canu 2 ddarn cyferbyniol, cystadleuaeth a oedd yn gofyn am 2 gân grefyddol a chystadleuaeth y Côr Merched.

Llwyddwyd i ennill pob cystadleuaeth a chael 3 chwpan i ddod adref gyda ni. Ond nid dyna'r diwedd. Roedd y côr gorau o blith y corau dynion a'r corau merched yn ennill cwpan aur hardd gwerth £20,000 - y Cheltenham Gold Cup! Ac ie, dyfarnwyd y cwpan i Gôr Canna!

  • Buddugoliaeth Cor 'n Wal
  • Mwy o Gaerdydd

  • Cyfrannwch
    Cyfrannwch i'r dudalen hon!

    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Gasnewydd):

    Sylw:




    Mae'r ÃÛÑ¿´«Ã½ yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


    0
    C2 0
    Pobol y Cwm 0
    Learn Welsh 0
    ÃÛÑ¿´«Ã½ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


    About the ÃÛÑ¿´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý