
ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru yn yr Eisteddfod
I'r gorllewin! yw'r gri wrth i Eisteddfotwyr o bob oed dyrru i Sir Benfro i Eisteddfod Genedlaethol 2002. Mari Jones-Williams sy'n edrych ar yr arlwy eang sy'n cael ei gynnig gan ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru eleni eto
Crynodeb o'r darlledu ar ddiwedd yr erthygl
Hud a swyn Sir Benfro fydd yn croesawu miloedd ar filoedd o eisteddfotwyr brwd wrth i wyl fwyaf Cymru ddod i ddinas leiaf y wlad, Tyddewi.
ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru yw Partner Darlledu'r Wyl ac eleni fel pob blwyddyn arall, bydd presenoldeb ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru yn amlwg i'r rhai syn crwydro'r maes yn ogystal â bod yn ganolog i'r rhai sy'n methu bod yno ond am daflu eu hunain i ysbryd yr wyl.
Ar lein, ar radio, ar y sgrîn ac ar y maes... Bydd cyflwynwyr a thimau cynhyrchu ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru yn taflu eu hunain i'r gweithgareddau gydag awch, gan ddod â newyddion y dydd, darllediadau byw o'r llwyfan a digwyddiadau ymylol, hwyl a holl awyrgylch yr wyl, cyfweliadau cefn-llwyfan, bandiau a hwyl canolfan ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru ar y maes.
Bydd gan ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru arlwy eang ar S4C ac S4C Digidol o fore tan nos gyda'r darlledu yn dechrau am 10.00 y bore ar ddigidol, gydag Alwyn Humphreys yn tywys y gwylwyr drwy gystadlaethau'r llwyfan.
Am 3.30pm bydd analog a digidol yn darlledu ar yr un pryd, gyda Huw Llywelyn Davies a Shân Cothi yn llywio'r rhaglenni.
Bydd ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru hefyd yn dod a chystadleuaeth Ysgoloriaeth W Towyn Roberts yn fyw o'r pafiliwn ar y nos Fercher am 7.45pm.
Dewi Llwyd fydd wrth y llyw am 8.00pm bob nos gyda rhaglen a fydd yn edrych ar ddigwyddiadau'r dydd.
Bydd Ffion Dafis, sydd ei hun yn un o gyn-enillwyr Gwobr Goffa Richard Burton yr Eisteddfod, hefyd yn cyfrannu at raglennir prynhawn a nos, gan ddod â hwyl y maes a chefn y llwyfan yn ei ffordd fyrlymus ei hun.
Bydd Catrin Ramasut hefyd yn dod â'r newyddion diweddaraf o bob twll a chornel o'r ardal eisteddfodol.
Cip dychanol a doniol fydd dau o enwau cyfarwydd Cymru yn ei roi ar raglenni'r nos, gyda Dylan Iorwerth a Twm Morys yn rhoi eu hargraffiadau hwy a'u sylwadau bachog ar y byd Eisteddfodol.
Bydd ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru hefyd yn dod ag uchafbwyntiau o'r Babell Lên ar S4C Digidol.
Mae holl gyflwynwyr Radio Cymru hefyd yn ymbaratoi am wythnos orlawn o waith, gan gyflwyno rhaglenni di-ri gyda darlledu 24 awr y dydd yn ystod wythnos yr Eisteddfod.
O Owain Gwilym i Hywel Gwynfryn, Dafydd Du i Dylan Wyn, Nia Lloyd Jones i Sian Thomas, Kevin Davies i Marc Griffiths, Beks, Idris Charles a Jonsi a mwy, fe fyddan nhw oll yn ei throi hi am Dyddewi i wneud yn siwr fod pawb, lle bynnag y bo, yn llwyddo i brofi hwyl y Brifwyl.
Bydd O'r Maes yn dechrau am 11.00am wrth i Hywel Gwynfryn, Nia Lloyd Jones, Dafydd Du ac Owain Gwilym ddod â bwrlwm a chyffro'r cystadlu, o gefn y llwyfan, y llwyfan ei hun a holl weithgareddau'r maes. Bydd y rhaglen yn dychwelyd am 2.30pm.
Am 1.15pm bydd Sioe Radio Cymru yn dod âr goreuon o sioe lwyfan ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru ar y maes, sy'n addo bod yn un cornel fywiog a lliwgar gydol yr wythnos gyfan gyda holl gymeriadau poblogaidd ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru yn cyflwyno rhai o fandiau gorau'r wlad, cystadaethau di-ri a wythnos gyfan o hwyl di-baid.
Am 6.45pm Beti George fydd yn dod ac uchafbwyntiaur dydd a chip ar feirniadaethau swyddogol ac answyddogol wrth ddadansoddi seremoniau mawr y dydd a chyfle i glywed pwt o ddonia'r Babell Lên.
Bydd O'r Maes Carafanau yn dod â holl hwyl y dref symudol hon, wrth bicio o garafan i garafan yn chwilio am hynt a helynt hwn a'r llall. Bydd cystadlaethau, gwesteion a cherddoriaeth fyw o'r safle hwn, sydd bron yn eisteddfod fach yn-ddi'i hun.
Lle arall sydd bron yn ddiwylliant ar wahân yw Maes B, a bydd Radio Cymru yn darparu gorsaf arbennig o'r man hwn sy'n nyth o hwyl, cyffro ac antur ieuenctid yr Eisteddfod. Bydd Maes B FM yn dechrau am hanner nos ac yn darlledu perfformiadau bandiau a DJs, sgyrsiau a cheisiadau drwy'r nos hyd at 6.00am.
Un safle fydd yn fwrlwm o bopeth Eisteddfodol yw ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru'r Byd, gwasanaeth arlein ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru. Yn ystod yr wythnos bydd holl ddarllediadau Radio Cymru yn cael eu lifo'n fyw sy'n golygu bod Cymru'r Byd yn galluogi pobol o bob rhan or byd i fwynhau Eisteddfod Genedlaethol Tyddewi. Bydd y safle hefyd yn darparu cystadlaethau'r llwyfan yn fyw o 10 tan 6.
Bydd staff Cymru'r Byd hefyd yn tynnu lluniau yn rheolaidd ar gyfer oriel luniau ar y wê fydd yn dangos gweithgareddau'r maes ac enillwyr a delweddau eraill difyr o'r Eisteddfod.
Yn rheolaidd bydd adroddiadau o newyddion y dydd yn cael eu ddiweddaru ac o fewn safle ÃÛÑ¿´«Ã½ ar y maes bydd cyfrifiaduron a phobol wrth law i arwain pobol o gwmpas safle Cymrur Byd. Dyma grynodeb o holl wasanaeth y ÃÛÑ¿´«Ã½ yn yr Eisteddfod:
Dydd Sadwrn, Awst 3, 8.00pm
Dydd Sul, Awst 4, 8.00pm
Dydd Llun-dydd Gwener, Awst 5-9, 3.30pm, 8.00pm ac eithrio dydd Mercher, Awst 7, 7.45pm
ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru ar S4C Digidol Dydd Sadwrn, Awst 3, 10.00am, 8.00pm; 11.25pm (ail-ddarllediad o raglen 8.00pm)
Dydd Sul, Awst 4, 10.00pm, 2.00pm, 8.00pm; 11.00pm (ail-ddarllediad o raglen 8.00pm)
Dydd Llun-Dydd Gwener, Awst 5-9, 10.00am (pafiliwn); 3.30pm; 6.00pm; 8.00pm; 11.30pm (ail-ddarllediad o raglen 8.00pm)
Uchafbwyntiau'r Babell Lên: Llun, 9.00pm; Mawrth, 10.30pm; Mercher, 11pm; Iau, 9.00pm; Gwener, 10.35pm
ÃÛÑ¿´«Ã½ Radio Cymru o'r Eisteddfod Dydd Sadwrn, Awst 3; Or Maes, 1.00pm; Tocyn Wythnos, 6.00pm Dydd Sul, Awst 4, Oedfa'r Bore,11.30am; O'r Maes, 2.00pm; Y Talwrn, 6.00pm; Mwy o'r Maes, 8.00pm Dydd Llun-Dydd Gwener, Awst 5-9; O'r Maes, 11.00am; Sioe Radio Cymru,1.25pm; Or Maes, 2.30pm; Tocyn Wythnos, 6.45pm; Or Maes Carafanau, 8.00pm; Maes B FM, Hanner nos - 6.00am

|