 Rhannu arian Plant ar y Maes
Mae Pudsey ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol ddydd Sadwrn yn rhannu grantiau ÃÛÑ¿´«Ã½ Plant Mewn Angen i helpu plant a phobl ifanc.
Yn gynharach eleni, yn rownd gyntaf y ceisiadau am grantiau, rhannwyd gwerth hyd at £1, 254, 170. Bydd arian dydd Sadwrn yn £1, 073, 559 arall sy'n gwneud cyfanswm Cymru eleni y mwyaf erioed gyda 142 o gynlluniau ar eu mantais.
Bydd prosiect iechyd meddwl yn Sir Benfro yn derbyn £91, 356 dros dair blynedd a bydd £450 ar gyfer offer anghenion arbennig mewn meithrinfa ym Stad Parc Caia yn Wrecsam.
Bydd arian hefyd i : £35, 803 i Gymdeithas Trigolion a chymuned Phillipstown. Bydd yn mynd tuag at benodi gweithiwr ieuenctid a gweithiwr technoleg gwybodaeth ar gyfer y prosiect pobol ifanc yn Phillipstown, 9fed cymuned mwyaf difreintiedig Cymru.
£34, 886 ar gyfer cynlluniau PPA ym Mlaenau Gwent, Torfaen, Sir Fynwy a Chasnewydd. Bydd yr arian yn mynd i roi cefnogaeth bellach i grwpiau meithrin i blant sydd â phroblemau ymddwyn.
£34, 375 i Ganolfan St Briavels sy'n darparu therapi ar gyfer plant sy'n dioddef o barlys yr ymennydd. Bydd yr arian yn galluogi plant na fyddai'n gallu fforddio mynd yno yn arferol, i dderbyn triniaeth yno.
£28, 475 i gynllun Crossroads Caerdydd a'r Fro, sy'n cefnogi plant sy'n gofalu am aelodau o'u teuluoedd.
£19,956 i Fairbridge Cymru. Bydd yr arian yn talu am gydlynydd ar gyfer y prosiect i helpu plant sy'n wynebu problemau, a'u cynorthwyo i gyrraedd eu potensial.
£18, 378 i'r Central African Association sy'n cynnig addysg ychwanegol i blant sydd wedi eu cartrefu yn ne Cymru, yn blant i geiswyr lloches neu ffoaduriaid o wledydd Affrica sydd mewn rhyfel.
£12, 050 i'r Mudiad Ysgolion Meithrin i ddatblygu therapi cerddorol i blant sydd o dan anfantais.
£11, 009 i Glwb R.O.C.K , sef clwb ar ôl oriau'r ysgol, i dalu am 2 gweithiwr yn ardal Abertyleri.
"Rhai enghreifftiau yn unig yw'r rhain o'r ystod eang o waith sy'n cael ei gyflawni gan sefydliadau gwirfoddol yng Nghymru, gyda chymorth ÃÛÑ¿´«Ã½ Plant Mewn Angen," meddai Marc Phillips, Cydlynydd Cenedlaethol ÃÛÑ¿´«Ã½ Plant Mewn Angen.
"Rydyn ni wrth ein boddau ein bod ni, oherwydd haelioni pobol Cymru, yn gallu cynnig mwy a grantiau nag erioed o'r blaen.
"Ond fe wyddom hefyd bod y galw am gymorth yn fawr - bron i 5 gwaith yn fwy na'r hyn allwn ni ei gynnig heddiw. Am bob un sefydliad dderbyniodd arian heddiw, rydym hefyd wedi gorfod gwrthod llawer o geisiadau haeddiannol."

|