|  |
 Nodiadau: Cau pen y mwdwl
Bu'n wythnos ragorol dan heulwen Gwent gyda bron i 150,000 wedi ymweld â maes y brifwyl erbyn y Gymanfa, nos Sul.
Ond er gwaethaf y tyrfaoedd da a oedd yn cystadlu'n agos, gan ragori ambell ddiwrnod ar Feifod y llynedd mae'r pryderon yn parhau am gyflwr ariannol Eisteddfod Genedlaethol Cymru.
Ac apêl am arian i gadw'r Eisteddfod rhag dyledion oedd un Llywydd Llys yr Eisteddfod, R Alun Evans, ar y diwrnod olaf.
Amser a ddengys yn awr a fu yr hyn a ddigwydd yn Nghasnewydd yn ddigon i sbarduno'r Cynlluniad, drwy'r Bwrdd Iaith, i fod yn Ifor Hael.
Wrth gau pen y mwdwl mae'n braf edrych yn ôl dros rai o ddigwyddiadau'r wythnos na chafodd eu cofnodi ar wefan ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru'r Byd hyd yn hyn.
Camgymeriad yr wythnos Yn y Babell Gelf a Chrefft y gwelwyd camgymeriad mwya'r wythnos wrth i ymwelydd ddychryn carwyr celf a pheri i'r Swyddog Celfyddydau Gweledol ruthro rhwng y gweithiau i arbed y dydd.
Yr hyn achosodd y fath gyffro i Robyn Tomos oedd gweld ymwelydd yn camgymryd y gwaith celf yn y llun ar y ddalen hon am bensil go iawn a mynd ati i geisio'i defnyddio.
Fel y dywedodd gwr o'r Cymoedd yn Saesneg wrth wylio'r ymrafael, "Dyma'r hwyl; mwya rydw i wedi'i gael ers dod mewn yma.
Ymddiheuriad yr wythnos Mewn wythnos gythryblus bu sawl sefyllfa ymddiheurol.
Yr Arglwydd Elis Thomas yn ymddiheuro am alw protestwyr a wrthwynebai araith Saesneg mewn cyfarfod ar y Maes yn "Ffasgwyr iaith" ond yr Archdderwydd yn gwrthod ymddiheuro am ymddangos fel pe byddai yn cymharu aelodau o Gyngor yr Eisteddfod i'r moch hynny yn y winllan enwog a roddwyd i'n gofal gan Saunders Lewis.
Ond erbyn diwedd yr wythnos bu'n rhaid iddo yntau ymddiheuro - am jocian o'r Maen Llôg fod gohebydd papur newydd oedd yn cael ei urddo yn aelod o'r Orsedd yn enllibiwr.
"Emyr o'r Morfa" oedd Emyr Williams, gohebydd eisteddfodol o hil gerdd, wedi ei ddewis yn enw gorseddol ond Robyn LlÅ·n yn awgrymu wrth ei urddo y byddai "Emyr yr enllibydd" yn well.
"Mi ddifethodd y diwrnod i mi," meddai Mr Williams gan ychwanegu nad y maen llog yw'r lle i dynnu coes fel yna.
A go brin fod hyd yn oed ymddiheuriad preifat a chyhoeddus wedi gwneud llwyr iawn am y llithriad.
A rhai yn synnu i'r llithriad gael ei wneud gan Archdderwydd sy'n gyfreithiwr hefyd!
Sibrydiad yr wythnos Mae pob un o ohebwyr y Maes yn hoffi meddwl iddyn nhw ddod o hyd i enw enillwyr y cystadlaethau seremoniol o leiaf ddiwrnod cyn y seremoni.
Llwyddiant cymysg gawsom ni eleni - yn enwedig yn achos cystadleuaeth y gadair trwy fod yn gwbl gywir ac yn gwbl anghywir yr un pryd.
"Pwy gaiff y gadair yfory?" holwyd ymhlith ein gilydd ddydd Iau.
"Neb," oedd yr ateb a'r sibrydion yn dew ymhlith Y Rhai sy'n Gwybod mai Steddfod Cadair Wâg fyddai un Casnewydd.
Ac, yn wir, "Neb" ddaru ennill gan mai dyna ffugenw'r bardd cadeiriol.
Y sibrydion, felly, yn ffeithiol gywir ond wedi eu camddehongli.
A faint o weithiau mae hynny'n digwydd mewn bywyd?
Dyfyniad yr wythos
Yr Archdderwydd Robyn Lewis yn dyfynnu Jonsi, ÃÛÑ¿´«Ã½ Radio Cymru, o'r Maen Llog wrth alw ar aelodau Cyngor yr Eisteddfod Genedlaethol i'w cadw eu hunain yn bur.
Tybed a fydd Jonsi yn awr yn anfon un o'i grysau T gyda'r union eiriau hynny arno i bob aelod o Gyngor yr Eisteddfod i'w hatgoffa o siaras yr Archdderwydd?
Heijac yr wythnos Yr aelod seneddol, Ann Clwyd, yn manteisio ar ei chyfle ar y llwyfan yn ystod seremoni groesawu Cymru a'r Byd i ledaenu neges a welwyd fel un wleidyddol noeth ynglyn â Rhyfel Irac gan sathru ar gyrn Undeb Cymru a'r Byd sy'n trefnu'r seremoni ac eraill yn y gynulleidfa.
Fel yr awgrymodd aelod amlwg o Gyngor yr Eisteddfod wedyn, camgymeriad yw rhoi llwyfan i unrhyw wleidydd.
"Pan ydych chi'n rhoi llwyfan i wleidydd mae petha fel hyn yn digwydd," meddai'n awgrymog.
Go brin y bydd y camgymeriad yn cael ei ailadrodd yn fuan.
Cymysgwch yr wythnos Gall enwau barddol fod yn dreth ar ambell un gyda gohebydd yn y Daily Post a fu'n holi'r Archdderwydd Robyn LlÅ·n un diwrnod yn gorffen ei frawddeg gyda'r geiriau, "meddai Mr LlÅ·n." 
Bu mwy fyth o gynysgwch erbyn dewis archdderwydd newydd ddydd Gwener gyda'r Western Mail yn cyhoeddi mai Selwyn Gruffydd - Griffith ddylai fod - a ddewiswyd a'i fod yn cael ei adnabod hefyd fel "Gwyn ap Gwilym" - heb sylweddoli, mae'n amlwg, mai enw'r ymgeisydd arall yn ras yr archdderwyddiaeth oedd Gwynn ap Gwilym!
Rhifau'r wythnos Ar wahân i'r rhifau ymweld dyddiol a gymharodd mor ffafriol â Meifod y llynedd o bosib mai ar lori a char y gwelwyd dau o rifau mwyaf diddorol yr wythnos.
C1 PWS oedd y rhif cofrestru ar lori oedd yn chwistrellu dŵr dros Maes i gadw'r llwch i lawr.
Ac yn y maes parcio gwelwyd yr hyn oedd yn siwr o fod yn gar mwyaf llengar y Brifwyl gyda'r rhif, L1 YFR!

|
|
|
|