|  |
 Dyddiadur: bore Sadwrn
Dyddiadur dyddiol Lowri Johnston o Faes B a gigs y Steddfod
Tristwch dydd Gwener Ar ôl noson hwyr iawn wrth y goelcerth nos Iau, mae'r blinder yn fy mwrw fore Gwener, fel hyn - yn enwedig wrth gerdded o gwmpas y maes yn dosbarthu copïau o'r Byd yn y prynhawn.
Ond, dwi'n cael ail egni ar ôl gorffen gwaith, ac felly yn cerdded o gwmpas i wario'r ychydig arian sydd gen i ar ôl!
Y Babell Roc Draw at y Babell Roc wedyn i weld Estella. Dwi heb gael llawer o gyfle i fynd i'r Babell Roc yn ystod yr wythnos, felly dwi'n manteisio ar y cyfle i ymlacio yn y gwres i ganeuon swynol Estella.
Gogz sydd i ddilyn, ac maen nhw'n chwarae tipyn o stwff newydd sydd allan nawr ar EP. newydd.
Ond mae'n rhy boeth, felly rydyn ni'n mynd yn ôl i'r babell i ymlacio (neu ddiogi hyd yn oed!).
Traffig Rhaid dweud bod trefniadau teithio rhwng y Maes Ieuenctid, y Maes Carafannau a Maes yr Eisteddfod wedi bod yn dda iawn - er bod y bysiau ychydig yn araf yn cyrraedd y Maes Ieuenctid weithiau, a'r traffig yn drwm iawn ar adegau.
Ond rhaid diolch yn fawr i'r bobl hynod garedig sydd wedi bod yn cadw trefn yn yr orsaf bysys ar faes yr Eisteddfod - maent wedi bod yn amyneddgar ac o hyd yn barod i helpu a dangos y ffordd cywir i ni!
Mae'r rhan fwyaf o fy ffrindiau yn mynd adre heddiw; felly dweud hwyl fawr wrthyn nhw cyn mynd i gig Eryr, Y Panics, Mim Twm Llai a Meic Stevens yng Nghlwb Pont Ebwy.
Dwi wedi bod yn mynychu gigs Cymdeithas yr Iaith drwy'r wythnos - heblaw am nos Fercher - yn bennaf, am eu bod yn agosach na gigs Maes-B sydd yng nghanol Casnewydd.
Mae'r cwrw yn rhatach hefyd - sy'n gwneud llawer o wahaniaeth pan ydych chi'n brin o arian! Roedd well gen i awyrgylch gigs Cymdeithas yr Iaith na'r un es i iddo yn TJ's. Llongyfarchiadau i'r Gymdeithas am drefnu gigs mor llwyddiannus!
Panig Panics Dwi mor drist bod y Panics yn gorffen - dwi wedi gweld nhw'n fyw 18 o weithiau erbyn hyn (sori, dwi'n falch o'r ffaith bach yma!), ac mi fydd yna golled mawr ar eu holau.
Dawnsio'n wyllt i'w set, a dwi'n teimlo'n eithaf emosiynol yn ystod y gân olaf, rhaid imi gyfaddef!
Dim ond gobeithio nad hwn fydd y diwedd i aelodau'r band yma.
Gigs olaf Bu gigs olaf dau fand gwych yn yr Eisteddfod - dau o fy hoff fandiau ar y Sîn Roc Gymraeg a dweud y gwir - wythnos drist iawn!
Dwi'n cael noson wych rhwng popeth - Meic Stevens yn grêt ac mae'n amser dychwelyd i'r Maes Ieuenctid wap! Ar ôl pot nwdl yn y Gorlan, draw i gynhesu wrth y tân tan oriau mân y bore unwaith eto. Ac o'r diwedd - cwsg!

|
|
|
|