Dyddiadur: bore Iau
Dyddiadur dyddiol Lowri Johnston o Faes B a gigs y Steddfod
Ar ôl noson fawr ym mharti Maes-e.com nos Fawrth, a dim llawer o gwsg, dwi'n teimlo ychydig yn sigledig bore Mercher. Ond ar ôl cael cawod yn adnoddau hyfryd (!) y maes ieuenctid, dwi'n dechrau dihuno ac yn barod i wynebu''r dydd o'm mlaen i! Ar ôl dihuno dwi'n sylwi bod rhywun wedi rhwygo drws ein pabell - mi wna i ddarganfod pwy iawn?!Er hynny, dwi'n gorfod ymadael â'r babell a draw at faes yr Eisteddfod. Dw i'n gweithio tan dri ac wedyn draw i'r Babell Lên. Rhaid i mi sôn am fy ffrind, Llinos Dafydd, a enillodd wobr Barddas dan 25 oed (sori, dwi ddim yn siŵr yn union beth oedd y gystadleuaeth!) Longyfarchiadau mawr iddi! Rwy'n aros ar ôl y seremoni i weld yr Ymryson rhwng timoedd Môn, Meirionydd a'r 'tîm dirgel'. Rhaid cyfaddef mai dyma fy nhro cyntaf mewn ymryson, ac fe fwynheais llawer mwy nag oeddwn i'n disgwyl. Doeddwn i'n methu credu y campweithiau ddaeth i'r golwg mewn amser mor fyr, a'r tîm dirgel aeth â hi, o drwch blewyn.
Draw wedyn am dro o gwmpas y maes. Mae'n fawr iawn flwyddyn yma (neu fi sy'n fach), a llawer i wneud ac i weld. Diolch byth am y bobl sydd "yma i helpu" i roi cyfarwyddiadau lle mae dod o hyd i bopeth.
Cysgu'n yr haul
Fy hoff stondin ar hyn o bryd yw un Tesco - pwdin reis hyfryd am ddim - ewch yno i'w flasu! Gyda'r haul tanbaid, dwi'n penderfynu peidio aros am sbel, felly yn ôl draw i'r maes ieuenctid. Roedden ni'n bwriadu mynd draw i gwis tafarn Abri, ond yn anffodus, rydyn ni rhy ddiog ac felly yn ei golli. Cysgu yn yr haul yn lle!
Y ddwy noson flaenorol, dwi wedi mynychu gigs Cymdeithas yr Iaith, ond heno dwi'n penderfynu mynd i TJs i weld gig olaf Mozz. Dwi'n hollol gutted eu bod nhw'n gorffen, does dim band tebyg iddyn nhw ar y Sîn ar hyn o bryd. Er eu bod nhw ond yn 17 oed, maen nhw wedi gwneud cymaint dros y flwyddyn diwethaf, ond dwi'n teimlo nad ydynt wedi cael cyfle i ddangos beth mae nhw wiryn gallu gwneud. Trueni iddyn nhw beidio rhyddhau albwm cyn iddyn nhw orffen. Ond, mae Dylan yn sôn bod rhywbeth ar y gweill ar gyfer rhai o aelodau Mozz, ac nad hyn fydd y diwedd, felly mae yna obaith wedi'r cyfan!
Teimlo'n sâl
Yn anffodus, yng nghanol set Jakakoyak dwi'n mynd i deimlo'n sâl iawn, ac felly gan fod gen i'r car dwi'n mynd draw i Gaerdydd i aros gyda ffrind am y noson. Gwely iawn o'r diwedd, a dwi'n gadael fy ffrindiau i ymdopi gyda'r babell sydd wedi rhwygo!
Mwy gen i fory - os byw ac iach!