 Hanes Ty Tredegar
William Rhys George yn rhoi hanes TÅ· Tredegar mewn llythyr at ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru'r Byd
Cynhelir yr Eisteddfod Genedlaethol eleni yng ngerddi Ty Tredegar, Casnewydd. Mewn byd sydd ag obsesiwn cynyddol â thai a'u cynnwys, dyma un ty sydd ben ac ysgwyddau uwchlaw'r gweddill.
Am dros bum can mlynedd roedd Tredegar yn gartref i un o'r teuluoedd Cymreig enwocaf, y Morganiaid, Arglwyddi Tredegar yn ddiweddarach.
Mae trefnwyr yr Eisteddfod yn falch iawn bod yr wyl yn cael ei chynnal yn yr ardal hon eleni.
"Mae tiroedd Ty Tredegar yn fan delfrydol i gynnal yr Eisteddfod Genedlaethol" meddai Cris Dafis, trefnydd y De. "Mae'r ty ei hun yn arbennig, wrth gwrs, a'r meysydd o'i gwmpas yn hyfryd."
Dangos eu cyfoeth O ran ei adeiladwaith, yr hyn sy'n taro rhywun am y ty yw'r defnydd o fric. Roedd bric yn ddefnydd adeiladu eithaf anarferol yng Nghymru bryd hynny, oherwydd bod carreg ar gael yn hawdd. Serch hynny, roedd teulu'r Morganiaid yn awyddus i ddangos eu cyfoeth, ac roedd defnyddio bric yn lle carreg yn un ffordd o wneud hyn.
Mae'r ty yn llawn o drysorau hanesyddol, hen greiriau sy'n adlewyrchu'r cyfnod, rhai ohonynt oedd yn wreiddiol i'r ty a rhai sydd wedi'u hychwanegu'n ddiweddarach. Er enghraifft, ar y bwrdd cinio mae llestri cinio rhannol Copeland.
Fe'u harchebwyd gan y teulu ar 6 Awst 1853 ac maent yn arddangos lliwiau'r teulu, glas ac aur, a'u harwyddair, Deus Nobiscum Quis Contra Nos (Mae Duw gyda ni, pwy all fod yn ein herbyn?).
Llawer o bortreadau Mae llawer o bortreadau o wahanol aelodau teulu'r Morganiaid, un ohonynt werth dros filiwn o bunnoedd. Ac mae'r Ystafell Frown yn cynnwys amrywiaeth o gerfiadau cymhleth.
Er bod arfbais y Morganiaid i'w weld ar y prif borth ac mewn mannau eraill o amgylch y tyni fu'r Morganiaid yn byw yma ers canol y ganrif ddiwethaf. Am ryw ugain mlynedd ar ôl hynny defnyddiwyd y ty; fel ysgol. Gadawodd y plant eu hôl ar yr adeilad, ac roedd tipyn o waith atgyweirio ac ailddodrefnu yn wynebu Cyngor Bwrdeistref Casnewydd ar ôl iddynt brynu'r Ty ym 1976. Serch hynny, dros yr wyth mlynedd ar hugain diwethaf gwnaed cynnydd aruthrol, a chyda chymorth ariannol parhaus CADW, Bwrdd Croeso Cymru, y Comisiwn Cefn Gwlad, Cyngor Amgueddfeydd Cymru, Ffrindiau Ty Tredegar, a llawer o unigolion a sefydliadau preifat, dylai fod yn bosibl i'r Cyngor gyflawni ei nod o adfer nid yn unig y Ty ond hefyd Fferm y Plas, y Stablau, y Gerddi a'r Parc i gyflwr fydd yn ymdebygu i'w golwg wreiddiol.
Diwylliant Cymraeg Nid yw diwylliant Cymraeg yn beth newydd i'r rhan hon o dde-orllewin Cymru. Lleolir Tredegar yn un o ardaloedd y traddodiad barddol yng Ngwent. Roedd Llys Ifor Hael, un o noddwyr pennaf Dafydd ap Gwilym, yng Ngwern y Clappa, ger Ty; Tredegar.
Ac ymwelodd yr Eisteddfod â'r ardal hon ym 1988. Serch hynny, mae'r ŵyl wedi newid cryn dipyn a defnyddir llawer mwy o'r gerddi eleni. Bryd hynny, 17 erw oedd maint Maes yr Eisteddfod; eleni fe fydd angen 31 erw.
Un newid mawr eleni fydd caniatáu alcohol ar faes y brifwyl, sy'n newid yn ôl rhai. Ond mae'n amlwg bod y trefnwyr o'r farn bod alcohol yn un ffordd o wneud yr wyl yn fwy deniadol.
Serch hynny, mae Ty a Pharc Tredegar yn hen gyfarwydd â chymdeithasu ac alcohol. Roedd un o aelodau mwyaf diddorol teulu'r Morganiaid, Evan Morgan, yn hoff iawn o gynnal partïon gwyllt yma ar benwythnosau. Evan Morgan oedd yr olaf o deulu'r Morganiaid i fyw yn y typan ddaeth yn Is-iarll Tredegar ym 1934.
Roedd llawer o'r prif ffigyrau llenyddol, artistig a chymdeithasol o'r 1930au a'r 1940au yn westeion rheolaidd yn Nhredegar, yn cynnwys H.G. Wells, yr ocwltydd Aleister Crowley, y llenor a'r meddyliwr Aldous Huxley, Tywysog Paul o Roeg a Nancy Cunard.
Cymysglyd a digyfeiriad Er bod Evan Morgan wedi'i ddisgrifio fel cymeriad cymysglyd a digyfeiriad, roedd yn garedig iawn at anifeiliaid a byddai'n hoff iawn o'u defnyddio i ddiddanu ei westeion. Roedd yr anifeiliaid mor ecsentrig a thalentog â'u meistr; er enghraifft, gallai'r cangarŵ baffio yn ogystal â neidio. A gallai iaith ei barot 'Blue Boy' fod yn eithaf coch ar brydiau.
Pe byddai'n fyw heddiw dw i'n siwr y byddai Evan yn hoff iawn o awyrgylch cymdeithasol yr Eisteddfod, ac nid fyddai elfen 'ecsentrig' yr Orsedd yn poeni dim arno, ac fel rhywun oedd yn hoff o'i bartïon coctels mae'n debygol y byddai'n croesawu'r ffaith bod alcohol ar gael ar faes y brifwyl.
yr olaf Evan oedd yr olaf o'r Morganiaid i fyw yn Nhredegar. Pan fu farw ym 1949 trosglwyddwyd y teitl i'w hen ewythr, Frederick George Morgan, a drosglwyddodd yr ystadau ar unwaith i'w fab ei hun, John, er mwyn osgoi trydydd gorfodaeth o dalu tollau marwolaeth.
Roedd cyfoeth y teulu eisoes wedi dioddef oherwydd tollau marwolaeth o'r fath. Ac ni wnaeth ffordd o fyw Evan, a oedd i raddau helaeth yn seiliedig ar gyfalaf ac nid incwm, lawer i helpu'r sefyllfa ariannol. Ym 1951, penderfynodd John Morgan werthu'r ty, y rhan fwyaf o'i gynnwys a'r ystad o'i amgylch, ac ymddeolodd i loches rhag treth Monte Carlo.
Ym 1962 bu farw John Morgan, heb etifedd, a dyna oedd diwedd Morganiaid Tredegar.
Er mwyn dysgu rhagor am y cartref a'r teulu arbennig hwn, cofiwch alw draw yn ystod wythnos yr Eisteddfod. Cewch eich tywys o amgylch y ty; mewn taith sy'n parhau am ryw awr a chwarter. Bydd mwynhau moethusrwydd y ty; crand yn gyfle delfrydol i chi ddianc o'ch carafán sigledig neu eich pabell fwdlyd.

|