ÃÛÑ¿´«Ã½

Explore the ÃÛÑ¿´«Ã½
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

ÃÛÑ¿´«Ã½ VOCAB : OFF / I FFWRDD

Turn on / Troi ymlaen

Language Help / Cymorth Iaith


ÃÛÑ¿´«Ã½ ÃÛÑ¿´«Ã½page
Hafan Cymru

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý

Straeon

Caffi Bara Caws yn y Steddfod

31 Gorffennaf 2007

Aelodau o gast Caffi Basra gydag Eilir Jones, yr awdur, trydydd o'r chwith.

Drama gomedi gan Eilir Jones

Drama am gyn filwr yn dychwelyd i Gymru i agor caffi fydd un Cwmni Bara Caws yn Eisteddfod genedlaethol Yr Wyddgrug.

Awdur Caffi Basra ydy Eilir Jones sydd wedi sgrifennu dramâu eraill ar gyfer y cwmni - ac actio ynddyn nhw.

"Wedi cyfnod hir yn brwydro'r Shi'ites ac ar ôl ca'l llond bol ar Hisbollah ma' Raymond wedi dod yn ôl i Gymru fach i agor caffi," meddai llefarydd ar ran y cwmni.

Ond yn ogystal â bod yn 'gwffiwr' sâl doedd Raymond fawr o gogydd ychwaith "doedd bywyd yn y catering corps ddim wedi ei baratoi ar gyfer gwneud bwyd i bobol oedd a'r dewis i fynd i rywle arall!"

Cymeriadau eraill yn y ddrama yw ei wraig Wena, Kazio, mewnfudwr o Wlad Pwyl a Shania, mam i efeilliaid.

"Be mae Raymond isio ydi gwyrth. A dyna'n union mae'n gael - gwyrth sy'n denu ffwndamentalwyr o bob lliw a llun i'w fwyty ffiaidd. Os oedd hi'n ddrwg yn Irac mae hi ar fin mynd llawer gwaeth yn Caffi Basra!"

Yr actorion fydd; Iwan Charles, Gwenno Elis-Hodgkins, Eilir Jones, Dyfed Thomas ac Awen Wyn gyda Tudur Owen yn cyfarwyddo.

Bydd Caffi Basra i'w gweld yn Ystafell Clwyd, Clwyd Theatr Cymru, nos Lun, 6 Awst - nos Iau 9 Awst am wyth o'r gloch.

Bydd y ddrama yn mynd ar daith o amgylch Cymru rhwng 4 Medi a 6 Hydref.



About the ÃÛÑ¿´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý