Sefydlwyd Gŵ²â±ô Gerdd Ryngwladol Gogledd Cymru ym 1972 gan y cyfansoddwr William Mathias a fu'n gyfarwyddwr artistig yr wyl hyd ei farwolaeth ym 1992.
Ei nod oedd denu artistiaid rhyngwladol i ogledd Cymru, a dewiswyd Cadeirlan Llanelwy fel lleoliad.
Eleni bu'r wyl yn dathlu genedigaeth Mozart, 250 o flynyddoedd yn ôl a chanmlwyddiant geni Shostakovich a Grace Williams.
Roedd nifer o artistiaid byd enwog yn rhan o wyl 2006, gan gynnwys Evelyn Glennie, Julian Lloyd Webber a Catrin Finch.
Bu Ensemble Cymru, yr ensemble preswyl, yn perfformio mewn nifer o leoliadau o amgylch Llanelwy a thu hwnt.
Yn ogystal trefnwyd gweithdai a digwyddiadau ar gyfer plant a phobl ifanc, gan gynnwys y Cyngerdd Teuluol - 'Carnifal yr Anifeiliaid.'
Ceir manylion pellach ar wefan yr
 |